Sut mae tystiolaeth ymchwil yn helpu i roi terfyn ar gywilydd mislif yng Nghymru
22 Rhagfyr
Mae adolygiad o dystiolaeth yng Nghymru wedi canfod bod angen gwneud mwy o ymchwil i effaith mislif ar ymarfer corff i helpu i ddatblygu ffyrdd gwell o gefnogi'r rhai hynny sy'n cael mislif.
Er gwaethaf y gefnogaeth sydd ar gael gyda'r nod o annog menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon, mae gwaith yng Nghanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi canfod "diffyg tystiolaeth amlwg" sy'n mynd i'r afael yn benodol â rheoli ymarfer corff drwy gydol y gylchred fislifol.
Roedd yr adroddiad, a oedd yn ymchwilio i ffyrdd y caiff pobl sy'n cael mislif eu cefnogi i wneud ymarfer corff, hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg ymchwil i'r gefnogaeth sydd ar gael i leiafrifoedd ethnig ac unigolion anneuaidd.
Wedi'i lansio yn 2023, crëwyd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddarparu tystiolaeth ymchwil hanfodol i Weinidogion a llunwyr penderfyniadau eraill i fynd i'r afael â heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n wynebu Cymru.
Wedi'i ddatblygu i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o wireddu urddas mislif yng Nghymru, bydd adroddiad y Ganolfan yn helpu i fynd i'r afael â ‘Cham Gweithredu 10’, sef Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif sy'n gobeithio gwella a chynnal cymryd rhan mewn ymarfer corff.
Mae iechyd mislif hefyd yn ganolbwynt allweddol i Gynllun Iechyd Menywod Cymru, a lansiwyd yr wythnos hon, sy'n tynnu sylw at fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o £9 miliwn i leihau tlodi mislif.
Dywedodd Alison Cooper, Cyfarwyddwr Cyswllt Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae gweithgarwch corfforol annigonol yn ffactor risg sylweddol i lawer o glefydau, gan gynnwys diabetes a chanser, gyda nifer y menywod nad ydynt yn cwrdd â'r lefelau a argymhellir 5% yn uwch na dynion. Ni ddylai neb fod dan anfantais oherwydd eu mislif.
“Mae'n wych bod y Ganolfan wedi helpu i lywio Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif. Mae'n amlwg bod gennym ychydig o waith i'w wneud i ddeall effaith y cylch mislif ar weithgarwch corfforol i roi gwell cefnogaeth i’r rhai sy'n cael mislif. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i gynllunio ymchwil yn y dyfodol."
Dywedodd Dr Steven Macey, Uwch Swyddog Ymchwil yn Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y prosiect: "Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Chwaraeon Cymru i ddeall effaith y mislif ar gyfranogiad mewn chwaraeon a datblygu set o gamau gweithredu i fynd i'r afael â heriau a nodwyd.
“Gan ddefnyddio'r wybodaeth hanfodol a ddarparwyd gan y Ganolfan Dystiolaeth, ochr yn ochr â thystiolaeth arall yr ydym yn ei chasglu ar hyn o bryd, gallwn ddod i syniad mwy cyflawn o sut y gallwn weithio tuag at wella a chynnal lefelau cyfranogi i'r rhai sy'n cael mislif."
Dywedodd Megan Hamer-Evans, Cydlynydd Datblygu - Ymgysylltu â Phobl Ifanc a Chyfathrebu, Gwobr Dug Caeredin Cymru: "Gyda chefndir mewn chwaraeon elitaidd, lle cynrychiolais Brydain Fawr yn Slalom Canŵio, rwyf wedi gweld â'm llygaid fy hun y bwlch gwybodaeth sylweddol a'r diffyg cefnogaeth wedi'i theilwra i fenywod a merched wrth reoli eu hiechyd mislif wrth gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Mae'r mater hwn yn aml yn mynd heb sylw, er gwaethaf ei effaith ar berfformiad a hyder mewn chwaraeon.
"Yn fy rôl broffesiynol gyda Gwobr Dug Caeredin, rwy'n gweithio gyda grŵp amrywiol o bobl ifanc ledled Cymru. Mae llawer o ferched a menywod ifanc rwy'n ymgysylltu â nhw yn aml yn tynnu sylw at yr heriau sy'n eu hwynebu wrth reoli eu mislif wrth gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac yn ystod elfen alldaith y Wobr. Mae'r profiadau hyn yn tanlinellu pwysigrwydd creu atebion hygyrch a darparu addysg ar iechyd mislif i gefnogi eu cyfranogiad."
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chofrestru i dderbyn ein cylchlythyr i fod y cyntaf i glywed am astudiaethau newydd o'r Ganolfan.