woman_smiling_on_a_white_background

Penodi Suzanne Rankin yn Brif Swyddog Gweithredol Hyrwyddo Ymchwil cyntaf

21 Ionawr

Mae Suzanne Rankin, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ei phenodi yn Brif Swyddog Gweithredol Hyrwyddo Ymchwil cyntaf Cymru, gyda'r nod o hwyluso a galluogi gweithgareddau ymchwil clinigol ledled GIG Cymru. 

Mae'r rôl allweddol hon yn pwysleisio ymrwymiad Cymru i hybu ymchwil iechyd a gofal drwy hyrwyddo'r galluogwyr allweddol i ddarparu treialon clinigol ac arloesol yn ymarferol ac, yn bwysicaf oll, rhoi cyfleoedd cynyddol i bobl Cymru gael mynediad at y gofal iechyd a'r canlyniadau gorau a mwyaf datblygedig. 

Fel y Prif Swyddog Gweithredol Hyrwyddo Ymchwil, bydd Suzanne yn eirioli dros hyrwyddo ac integreiddio ymchwil yn GIG Cymru sy'n cynnwys cadeirio'r grŵp llywio i gefnogi gweithredu'r Fframwaith yn genedlaethol, ac amlinellu ‘sut olwg sydd ar ragoriaeth ymchwil' yn sefydliadau'r GIG yng Nghymru. Nod y Rhaglen Gwreiddio Ymchwil dilynol yw darparu arweiniad ar sut y gall sefydliadau'r GIG wreiddio ymchwil mewn meysydd megis datblygu academyddion clinigol, mesur gwerth economaidd ymchwil, ac integreiddio ymchwil yng  ngweithlu GIG Cymru. Bydd hi hefyd yn cyfrannu at oruchwylio a llywodraethu'r rhaglen buddsoddi mewn ymchwil fasnachol yng Nghymru, i gryfhau ein capasiti i gefnogi datblygiad triniaethau blaengar. 

Bydd Suzanne yn cefnogi ymgyrch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i weithio'n agos gyda sefydliadau'r GIG, prifysgolion a sefydliadau ymchwil i feithrin diwylliant o welliant ac arloesedd parhaus. Mae gan Brif Swyddogion Gweithredol sefydliadau'r GIG ledled Cymru i gyd gyfrifoldeb am feysydd penodol o waith strategol ac fel rhan o'r rôl hon, bydd Suzanne yn cydweithio â Phrif Weithredwyr GIG Cymru eraill i integreiddio ymchwil i drafodaethau, polisïau ac arferion cenedlaethol. 

Mae'r rôl hon yn dilyn penodi 12 o hyrwyddwr sy’n Aelodau Bwrdd Annibynnol ar gyfer ymchwil ym mhob sefydliad GIG yng Nghymru. Roeddynt yr hyrwyddwyr cyntaf yn y DU, a sefydlwyd yn 2022, i sicrhau amlygrwydd ymchwil ar lefel y Bwrdd.  

Dywedodd Suzanne, "Fel Prif Weithredwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, rwyf wedi bod yn dyst yn uniongyrchol i bŵer trawsnewidiol ymchwil wrth achub bywydau, llunio ymarfer, a dylanwadu ar bolisi—gan arbed amser ac adnoddau i'r GIG yn y pen draw. 

"Mae'n hanfodol ein bod yn codi proffil yr ymchwil a'r datblygiad rhagorol sy'n cael ei ddarparu ar garreg ein drws i staff a chleifion ledled y wlad, a byddaf yn gwneud hyn ym mhob agwedd ar y rôl, gan gefnogi Cynllun Ymgysylltu Cymru Gyfan.  

"Rwyf wedi ymrwymo'n fawr i sicrhau bod manteision ymchwil yn cael effaith gadarnhaol ar bobl Cymru yn ogystal â chydweithwyr yn y GIG. Edrychaf ymlaen at gydweithio â'r timau talentog trwy Gymru i gefnogi'r gwaith o feithrin capasiti a gallu wrth i ni eirioli dros ymchwil ym mhob agwedd o’n gwaith. 

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae mor bwysig bod gennym lysgenhadon ar gyfer ymchwil ar bob lefel o'r sefydliad, gan gynnwys yn y swyddi uchaf.   

“Gyda'n gilydd, gallwn gymryd camau breision i wella canlyniadau iechyd a sicrhau bod Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad ym maes ymchwil iechyd a gofal." 

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn hyderus y bydd y penodiad hwn yn arwain at ddatblygiadau sylweddol wrth integreiddio ymchwil o fewn GIG Cymru, a fydd o fudd i gleifion a chymunedau trwy Gymru yn y pen draw.