Headshot of Ann.

Gyrfa sydd wedi’i hymroi i iechyd meddwl ac atal hunanladdiad

24 Chwefror

Mae Ann John wedi creu gyrfa anhygoel sydd wedi’i hymroi i wella iechyd meddal ac atal hunanladdiad. Mae hi’n athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac mae hi wedi ennill un o wobrau personol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hi hefyd yn cadeirio Grŵp Cynghori Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad a hunan-niwed.

Dechreuodd ei gyrfa fel meddyg, gan weithio fel meddyg teulu cyn symud i feysydd iechyd y cyhoedd ac epidemioleg glinigol. Cafodd ei phenderfyniad i symud i faes ymchwil ei ddylanwadu gan gleifion yr oedd wedi eu helpu yn ystod ei gwaith clinigol, yr oedd eu straeon bywyd wedi gwneud argraff arni.

“Rwyf wedi meddwl yn aml, tybed sut y gwnaeth fy llwybr gyrfa, o gymhwyso fel meddyg i fod yn feddyg teulu ac yna gweithio ym maes iechyd y cyhoedd, fy arwain at wneud ymchwil ym maes atal hunanladdiad. Doedd e’ ddim wedi’i gynllunio.

“Does dim amheuaeth bod o’r rhai cleifion yr wyf wedi’u gweld dros y blynyddoedd wedi aros yn y cof.”

Un o’i phrosiectau ymchwil pwysig oedd Porth Gwe Hunan-niweidio Cymru (SHeP-Cymru), wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a gwblhawyd yn 2020. Aeth y prosiect i’r afael â diffyg monitro cynhwysfawr ar gyfer hunan-niweidio y tu hwnt i adrannau brys. Dywedodd Ann:

“Mae hunan-niweidio yn fater sylweddol ym maes iechyd y cyhoedd, ac eto mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n hunan-niweidio yn cael eu rheoli mewn meddygfeydd teulu neu nid ydynt yn ceisio unrhyw gymorth o gwbl, sy’n golygu eu bod yn cael eu tangynrychioli ym maes ymchwil.”

Aeth y prosiect ati i ddatblygu llwyfan gwe arloesol i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael eu cynnwys, mewn ffordd ddiogel a moesegol, mewn ymchwil am hunan-niweidio. Rhoddodd cyfranogwyr gydsyniad i gysylltu eu cyfraniadau â data a gesglir yn rheolaidd yng nghronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Caniataodd y dyluniad hwn i’r prosiect fynd y tu hwnt i gofnodion adrannau brys, gan ymgorffori data o feddygfeydd teulu, derbyniadau i’r ysbyty a mewnbwn uniongyrchol gan bobl a oedd yn profi syniadaeth hunan-niweidio.

Datblygodd y prosiect hefyd fethodoleg i asesu effaith amlygiad i’r cyfryngau ar ymddygiad hunan-niweidiol ar lefel unigolyn a grŵp. Dywedodd Ann:

 “Mae’r dull hwn yn creu’r darlun mwyaf cynhwysfawr hyd yma o unigolion sy’n hunan-niweidio, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr i lywio ymchwil a gwasanaethau yn y dyfodol.”

Erbyn hyn, mae ei thîm ym Mhrifysgol Abertawe yn adeiladu ar y gronfa ddata ac yn meithrin dealltwriaeth o ymddygiad hunanladdol drwy ddata, cyfweliadau ansoddol a dulliau casglu tystiolaeth.

Arweiniodd rhywfaint o’i gwaith ymchwil arall a oedd yn canolbwyntio ar adroddiadau yn y cyfryngau yn ystod clwstwr o hunanladdiadau yn Ne Cymru at gyfarfod â newyddiadurwyr o Gymru a thu hwnt i drafod dulliau adrodd cyfrifol.

Mae hi hefyd wedi ymgynghori ar straeon o hunanladdiad ar ddramâu teledu poblogaidd fel Casualty, Coronation Street a Hollyoaks. Gweithiodd yr Athro John gyda chynhyrchwyr, awduron ac actorion ar y sioeau, a chynhaliwyd sawl cyfarfod ar setiau ledled y DU. Roedd ei mewnbwn a’i harbenigedd yn ddefnyddiol iawn.

Mae Ann yn disgrifio ei gyrfa fel cymysgedd o ofal clinigol ac ymchwil sydd â’r nod cyffredin o wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl. Mae hi wedi cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol newydd ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, lle bydd yn canolbwyntio ar drawsnewid ymchwil yn ganlyniadau ymarferol.

Gyda’r cymorth cywir, gallwch chi drawsnewid eich brwdfrydedd dros wella bywydau yn waith ymchwil effeithiol. Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnig cyllid, mentoriaeth ac adnoddau i’ch helpu i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa fel ymchwilydd a gwneud gwahaniaeth.  

Archwilio tudalennau’r Gyfadran.