Nyrs ymchwil yn gwirio pwysedd gwaed menyw

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi ymchwil i iechyd menywod drwy lansio canolfan newydd gwerth £3m

22 Chwefror

Mae Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy AS, wedi croesawu lansio canolfan Ymchwil Iechyd Menywod Cymru newydd, gwerth £3 miliwn, diolch i gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dywedodd Ms Murphy y byddai’r ganolfan newydd yn ‘denu ymchwilwyr blaenllaw, a’u cadw, ac yn helpu i sicrhau bod profiadau menywod Cymru a’u hanghenion yn llywio strategaeth iechyd menywod Cymru’.

Mae’r hwb ariannol yn cynrychioli ymrwymiad sylweddol i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd a llywio gwasanaethau ar gyfer menywod yn y dyfodol, fel sydd wedi’i nodi yng Nghynllun Iechyd Menywod Cymru.

Dywedodd Ms Murphy: "Bydd y ganolfan ymchwil newydd hon, y gyntaf ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru, yn hanfodol i’n helpu ni i ddeall profiadau menywod yn well, datblygu triniaethau mwy effeithiol, a sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd wir yn diwallu anghenion menywod ym mhob cyfnod o’u bywydau.

"Rwy’n gobeithio y bydd y ganolfan yn denu ac yn cadw ymchwilwyr blaenllaw yn y maes ac yn helpu i sicrhau bod profiadau ac anghenion menywod Cymru yn ysgogi cynllun iechyd menywod Cymru ar gyfer Cymru."

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o becyn cyllido ehangach gwerth £49 miliwn a gyhoeddwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gefnogi 17 o ganolfannau ymchwil ledled y wlad.

Mae Cynllun Iechyd Menywod Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn nodi cynlluniau i lansio galwad am ymchwil iechyd menywod, gyda chyllideb o £750,000 ym mis Ebrill 2025 yn ogystal ag annog prifysgolion Cymru i wneud cais am gyllid cychwynnol i greu Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod.

Bydd y Rhwydwaith Iechyd Menywod, sy’n rhan o Weithrediaeth y GIG, nawr yn gweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r gymuned academaidd i wella’r dystiolaeth iechyd benodol i fenywod sydd ar gael yng Nghymru.

Dywedodd Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Iechyd Menywod: "Mae hwn yn gam calonogol tuag at sicrhau system gofal iechyd fwy cyfartal i fenywod yng Nghymru ac mae’n fuddsoddiad gwirioneddol yn ein hiechyd yn y dyfodol.

"Bydd y Rhwydwaith Iechyd Menywod, sy’n rhan o Weithrediaeth GIG Cymru, yn edrych ymlaen at weithio gyda’n cydweithwyr yn Ymchwil Gofal Iechyd Cymru, ac ynghyd â rhanddeiliaid allweddol, yn gweithio i ddatblygu’r data a’r dystiolaeth sy’n benodol i fenywod. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn allweddol wrth helpu i lunio’r gwasanaethau a fydd yn gwella profiadau a chanlyniadau i fenywod yng Nghymru."