Rheolwr Cyllid a Chostau Ymchwil - Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae cyfle secondiad unigryw a chyffrous am gyfnod penodol wedi codi i unigolyn eithriadol gael ei benodi yn Rheolwr Costio Ymchwil.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y swydd secondiad, rhaid i chi gael caniatâd eich rheolwr llinell presennol cyn gwneud cais am y swydd hon.  

Bydd y rôl hon yn addas i unigolyn hunan-gymhellol gyda sgiliau dadansoddol, cyfathrebu a datrys problemau cryf, sydd ag angerdd am wasanaethau a systemau digidol ac sy'n mwynhau llwyth gwaith amrywiol. 

Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar:    

  • sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i weithio gyda chydweithwyr ar bob lefel ar draws ystod o sefydliadau
  • agwedd gadarnhaol a hyblyg tuag at anghenion y gwasanaeth 
  • brwdfrydedd, bod yn barod ar gyfer yr her nesaf a mwynhau gweithio fel rhan o dîm prysur iawn. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae’r prif ddyletswyddau fel a ganlyn:

  • bod yn gyfrifol am reoli'r incwm cysylltiedig masnachol a dderbynnir gan Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy ddatblygu a gweithredu prosesau ariannol cadarn ac adroddiadau tryloyw.
  • cefnogi'r Uwch Reolwr Cyllid a Chontractau drwy gyfrannu at raglen waith cyllid a chostau'r GIG ehangach sy'n cynnwys cefnogi datblygu, diweddaru a gweithredu polisïau cyllid a chostau'r GIG safonol cenedlaethol, hwyluso mecanweithiau adennill costau ar gyfer ymchwil y GIG a chefnogi gweithredu modelau dosbarthu incwm. 
Contract type: Cyfnod Penodol: 2 flynedd (Gyfnod penodol/ar secondiad am oherwydd cyllid)
Hours: Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Salary: Band 7 £46,840 - £53,602 per annum pro rata
Lleoliad: Caerdydd / Hybrid
Job reference:
070-AC020-0225
Closing date: