
Adnodd a hyfforddiant ymchwil newydd ar gyfer cartrefi gofal
11 Ebrill
Mae aelodau o’r gymuned cartrefi gofal yng Nghymru wedi cydweithio i ddatblygu adnodd a gweithdy hyfforddiant newydd sbon i weithwyr gofal rheng flaen ledled Cymru. Nod y fenter hon yw gwella dealltwriaeth o ymchwil a’u hysbrydoli i integreiddio ymchwil yn eu rolau.
Cafodd y gwaith o gynhyrchu’r hyfforddiant a’r pecyn adnoddau, “Ysgogi diddordeb mewn ymchwil”, ei arwain gan ENRICH Cymru, rhwydwaith sy’n cysylltu ymchwilwyr â chartrefi gofal, mewn partneriaeth a Grŵp Pobl a Gofal Cymdeithasol Cymru.
Dywedodd Stephanie Green, Cydlynydd Datblygu Ymchwil yn ENRICH Cymru, a gydweithiodd ar y prosiect hwn: “Ethos ENRICH Cymru yw cynnwys cartrefi gofal mewn ymchwil a sicrhau bod gan y gymuned cartrefi gofal lais mewn ymchwil sy’n newid bywydau. Ynghyd â Gofal Cymdeithasol Cymru a Pobl, fe wnaethon ni nodi bod diffyg dealltwriaeth helaeth o ymchwil, pam ei bod yn bwysig i ymarferwyr gofal cymdeithasol, a sut i gymryd rhan.
“Gyda hyn mewn cof, fe aethon ni ati i gyd-gynhyrchu adnodd a modiwl hyfforddiant sy’n rhoi trosolwg syml o ymchwil ac yn dadansoddi rhwystrau, gan gynnwys y defnydd o iaith, sy’n atal cartrefi gofal ac unigolion rhag cymryd rhan mewn ymchwil.”
Cafodd yr adnodd “Ysgogi diddordeb mewn ymchwil” a’r hyfforddiant sylfaenol ar ymwybyddiaeth o ymchwil eu cyd-gynhyrchu drwy gyfres o bum gweithdy gyda saith ymarferydd cartrefi gofal er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol, yn hygyrch ac yn syml.
Dywedodd Lynne Whistance, Swyddog Cynhwysiant a Thechnoleg Gynorthwyol yn Pobl: “Drwy weithio gydag ENRICH Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu’r adnoddau ymchwil hyn, gallem fod yn sicr ein bod ni’n cynhyrchu rhywbeth a oedd yn berthnasol i’n staff ac a fyddai’n cael ei ddefnyddio yn eu hymarfer o ddydd i ddydd. Fe wnaeth y broses gyd-gynhyrchu hybu hyder y tîm a ffurfioli’r ffordd rydym yn gweithio’n barod a’r sgyrsiau rydym yn eu cael yn ein cyfarfodydd tîm.”
I gloi dywedodd Stephanie, “Mae’r broses hon wedi bod yn ffordd wych i sefydliadau sydd â’r un nodau ddod ynghyd a chefnogi cartrefi gofal ledled y wlad. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu’r adnodd hwn yn eang a mynd ymlaen i ddatblygu sgiliau hyfforddiant ymchwil uwch yn y dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am ENRICH Cymru neu i ymuno â’r rhwydwaith, ewch i wefan ENRICH Cymru.