ENRICH Cymru
Caiff Galluogi Ymchwil Mewn Cartrefi Gofal (ENRICH) Cymru ei gynnal ar y cyd gan Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, gan weithio ar draws Prifysgolion Bangor ac Abertawe, ac mae’n rhwydwaith ymchwil Cymru gyfan o gartrefi gofal sy’n cynorthwyo cyflwyno a hwyluso ymchwil o safon uchel sy’n mynd i’r afael â materion presennol yn y sector cartrefi gofal.
Mae'r rhwydwaith yn hyrwyddo cyfnewid syniadau a gwybodaeth, ac yn meithrin cyd-greu ymchwil ledled y wlad drwy ddod â staff cartrefi gofal, preswylwyr a'u teuluoedd at ei gilydd gydag ymchwilwyr.
Mae lle yn y rhwydwaith i bob cartref gofal sydd â diddordeb ymuno, p’un a ydych eisiau cael y newyddion diweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil neu os ydych chi’n barod i gynorthwyo drwy gyflawni ymchwil yn eich cartref chi.
I ddod yn aelod anfonwch e-bost at Stephanie Green.
Bydd aelodau rhwydwaith ENRICH Cymru yn derbyn:
- Diweddariadau rheolaidd am gyfleoedd ymchwil sydd ar y gweill yng Nghymru a’r datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil a datblygu cartrefi gofal ledled y DU
- Hyfforddiant ar-lein am ddim
- Cyfleoedd i fynychu digwyddiadau ymchwil a hyfforddiant
- Cyngor a chymorth ar oresgyn yr heriau o ran cyflenwi ymchwil mewn cartrefi gofal
- Cefnogaeth i nodi cartrefi gofal a phreswylwyr i gynorthwyo astudiaethau
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Stephanie Green neu i ymuno â rhwydwaith ENRICH Cymru, llenwch y ffurflen ymaelodi â’r rhwydwaith cartrefi gofal sy’n barod ar gyfer ymchwil.
Mae rhwydwaith ENRICH Cymru yn gysylltiedig â rhwydweithiau rhanbarthol ENRICH ar draws Lloegr a’r Alban. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan ENRICH.
- Newyddion a blogiau
-
Dyfodol cyffrous gyda phenodiad rheolwr ymchwil newydd ENRICH Cymru
Cwrdd â’r hwyluswyr newydd yn ENRICH Cymru
Astudiaeth wrthfeirysol ledled y DU
Effaith COVID-19 ar Gynorthwyo a Rheoli Pobl Hŷn yng Nghymru: Astudiaeth COSMO – cyfle ymchwil
Prosiect ymchwil i bwysigrwydd y Gymraeg mewn cartrefi gofal
Faint mae'r amgylchedd mewn cartref gofal yn effeithio ar ansawdd bywyd?
A allwch chi helpu gydag ymchwil i heintiau’r llwybr wrinol ymhlith preswylwyr cartrefi gofal?
- Staff Cartrefi Gofal
-
Caiff ymchwil ei wella pan fydd staff cartrefi gofal yn cael eu cynnwys wrth osod cwestiynau, penderfynu sut i gasglu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau ar beth sy’n wybodaeth bwysig i’w chylchredeg o ganlyniadau’r astudiaeth.
Gall gymryd rhan mewn ymchwil amrywio o ddosbarthu taflenni am ymchwil i breswylwyr i helpu i gynnal astudiaethau. Bwriad cynorthwyo ymchwil yw helpu i wella ansawdd bywyd preswylwyr a phobl eraill sy’n byw gyda dementia neu salwch arall mewn cartrefi gofal.
Buddion cymryd rhan mewn ymchwil yw:
- Gall ymchwil arwain at gysylltiadau gwell gyda gwasanaethau cymunedol a rhwydweithiau cartrefi gofal lleol eraill
- Gallai datblygiadau newydd o ran darparu gofal gyrraedd eich cartref gofal sy’n ddefnyddiol i arferion bob dydd
- Gallai ymchwil helpu i hyrwyddo eich cartref gofal ac mae’n caniatáu i breswylwyr a’u teuluoedd wybod bod eich cartref gofal yn chwarae rhan weithredol o ran darparu arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- Gallai ymchwil gyfrannu tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus staff ac ail-ddilysu nyrsys.
- Ymchwilwyr
-
Mae ENRICH Cymru yn bwriadu cynyddu faint o ymchwil a gynhelir yn y sector gofal. Gall y rhwydwaith gynnig cymorth ac arweiniad i helpu goresgyn yr heriau wrth gyflawni ymchwil ac wrth nodi cartrefi gofal a phreswylwyr i gynorthwyo mewn astudiaethau.
Dyma rai o’r rhesymau allweddol mae cynnal ymchwil mewn cartrefi gofal yn hanfodol:
Gwella bywydau preswylwyr
Mae gwir newid mewn polisi a gofal, yn dod o’r dystiolaeth a gafwyd yn yr ymchwil. Po fwyaf o ymchwil a gynhelir, y gorau bydd ansawdd y gofal caiff a ddarperir ledled y wlad.
Gwella mynediad i ymchwil
Mae preswylwyr cartrefi gofal wedi’u tangynrychioli mewn ymchwil glinigol, gall agor mynediad i’r astudiaethau hyn wella recriwtio yn yr astudiaethau prin sydd ar gael ar hyn o bryd.
Yn helpu datblygu’r arferion gorau
Gan fod preswylwyr wedi’u tangynrychioli mewn ymchwil, mae rhai ardaloedd lle mae’r dystiolaeth i gefnogi arfer gorau yn wan. Mae’r diffyg tystiolaeth hyn yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ymchwil newydd.
Codi’r safonau
Mae tystiolaeth ymchwil yn hanfodol i godi safonau gofal mewn cartrefi gofal. Er enghraifft, fe wnaeth un astudiaeth ddarparu hyfforddiant a chymorth i staff cartrefi gofal ac o ganlyniad fe wnaeth defnydd cyffuriau niwroleptig mewn preswylwyr heb ddementia leihau 50% heb waethygu symptomau ymddygiadol.
- Cartrefi gofal yn y rhwydwaith
-
- Canolfan Gofal Sŵn-y-Môr, Scarlet Ave, Aberafan, SA12 7AH
- Cartref Gofal Greenhill Manor, Pentrebach, Merthyr Tudful, CF48 4BE
- Cartref Gofal Hengoed Court, Cefn Hengoed Rd, Winch Wen, Abertawe, SA1 7LQ
- Cartref Gofal Hengoed Park, Cefn Hengoed Rd, Winch Wen, Abertawe, SA1 7LQ
- Cartref Gofal Tŷ Hafod, Llantrisant Road, Llandaf, Caerdydd, CF5 6JR
- Foxtroy House, Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 9HD
- Cartref Gofal The Old Vicarage, Sgeti, Abertawe SA2 9AS
- Cartref Gofal April Court, Abertawe SA1 4DE
- Trem y Glyn, Rhodfa’r Parc, Glyn-nedd, Castell-nedd, SA11 5DW
- Plas Bryn Rhosyn, Plas Bryn Rhosyn, Heol Illtyd, Castell-nedd, SA10 7SE
- Cartref Nyrsio Westhaven, Bae Colwyn, LL28 4DW
- Haulfryn Care Ltd, Pistyll Hill, Cymau LL11 5ER
- Colwyn Bay Old Convent Nursing Home Ltd
- Cartref Nyrsio Plasgwyn
- Cartref Nyrsio’r Bwthyn
- Cartref Nyrsio Bodawn, Porthmadog
- Fairways Care Ltd: Cartref Nyrsio Ceris Newydd
- Fairways Care Ltd: Glyn Menai
- Fairways Care Ltd: Canolfan Gofal Dementia Ty Cariad
- Fairways Care Ltd: Cartref Nyrsio Fairways
- Cartref Gorffwys Aingarth
- Cartref Preswyl a Henoed Eiddil eu Meddwl Bryn Edwin Hall
- Ty Penrhos, Castlegate, Caerffili CF83 2AX
- Llys Y Bryn Residential Home, Gelli Rd, Llanelli SA14 9AD
- Park House Court Nursing Home, Narberth Rd, Tenby SA70 8TJ
- Williamston Nursing Home, Houghton, Aberdaugleddau SA73 1NL