
Sgyrsiau hinsawdd rhwng y cenedlaethau yn hoelio sylw yn ystod Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau 2025
25 Ebrill
Mae prosiect ymchwil yng Nghymru wedi bod yn pontio safbwyntiau’r cenedlaethau i annog gwell dealltwriaeth a gweithredu ar y cyd ar yr hinsawdd. Mae prosiect OPTIC, sy'n archwilio barn pobl hŷn ac iau ar newid hinsawdd, wedi rhoi clod i ENRICH Cymru am helpu i gysylltu ymchwilwyr â chartrefi gofal - gan sicrhau bod lleisiau cenedlaethau hŷn nid yn unig yn cael eu clywed ond yn cael eu gwerthfawrogi wrth lunio atebion hinsawdd ar gyfer y dyfodol.
Pontio safbwyntiau’r cenedlaethau ar newid hinsawdd
Wedi'i ariannu trwy'r Rhaglen Ymchwil Cymdeithasol, Ymddygiadol a Dylunio Heneiddio'n Iach a'i chefnogi gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), aeth astudiaeth OPTIC ati i edrych ar sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar fywydau bob dydd pobl hŷn a phobl iau. Trwy weithdai, rhannodd cyfranogwyr eu meddyliau, pryderon a gobeithion, a chofnodwyd y canfyddiadau mewn Comic Hinsawdd dwyieithog, wedi'i ddarlunio gan Laura Sorvala.
Mae'r comic yn fodd o gychwyn sgwrs, gan dynnu sylw at wahaniaethau rhwng y cenedlaethau a phryderon a rennir am yr amgylchedd. Mae'r tîm ymchwil bellach yn datblygu pecyn o weithgareddau pontio’r cenedlaethau sydd â’r bwriad o ysbrydoli deialog a gweithredu pellach.
Cynnwys cartrefi gofal yn y sgwrs
Roedd y tîm ymchwil eisiau sicrhau bod gwahanol genedlaethau yn cael eu cynnwys, felly gweithiodd y tîm gydag ENRICH Cymru i gysylltu â thri chartref gofal: Cartref Gofal Haulfryn, Cartref Gofal Ysguborwen, a Chartref Gofal Llys Cyncoed. Mae hyn wedi sicrhau bod profiadau bywyd pobl hŷn yn cael eu cynnwys wrth lunio strategaethau hinsawdd y dyfodol.
Cynhaliwyd sesiynau syniadau mewn ysgolion, cartrefi gofal a grwpiau cymunedol gan gynhyrchu syniadau i'w cyfrannu at becyn gweithgareddau prototeip. Defnyddiwyd y pecyn i gasglu adborth gan blant a phreswylwyr cartrefi gofal wnaeth gyfrannu at ddyluniad y pecyn terfynol.
Creu undod rhwng y cenedlaethau
Siaradodd Dr Merryn Thomas, arweinydd prosiect OPTIC, am bwysigrwydd cydweithio rhwng cenedlaethau:
"Mae'n hanfodol deall safbwyntiau newid hinsawdd pobl hŷn ac iau, fel y gellir llywio a rheoli amgylcheddau byw, gwaith a hamdden yn effeithiol ar gyfer iechyd, lles a chynaliadwyedd yn y dyfodol.
"Ni allem fod wedi symud ymlaen i'r cam nesaf hwn heb gymorth ENRICH Cymru.
"Mae pobl hŷn weithiau'n cael eu disgrifio fel rhai nad ydynt yn poeni cymaint am newid hinsawdd, ond dydy hynny ddim yn wir yn ein hymchwil ni, ac rydym wedi dod o hyd i lawer o undod rhwng grwpiau oedran yn ein hymchwil.
"Rydyn ni wedi gweld perthnasoedd hyfryd yn ffynnu. Er enghraifft, eisteddodd un bachgen Blwyddyn 6 (deg oed) a siarad â phreswylydd cartref gofal am dros awr am newid hinsawdd a dysgu o brofiadau o byllau glo a'r Ail Ryfel Byd."
Dywedodd Dr Deb Morgan, Rheolwr Ymchwil ENRICH Cymru:
"Dyma ein bara menyn, nid dim ond cefnogi ymchwilwyr yn eu gwaith ond eu cysylltu â phobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal.
"Mae'r math hwn o weithgaredd yn brofiad cyfoethogi i'r trigolion; maent yn dangos pa mor bwysig yw eu safbwyntiau ond hefyd yn cymryd rhan mewn sgwrs gyda phobl newydd o wahanol oedrannau a chefndiroedd. Rydym yn edrych ymlaen at weld y pecyn gweithgareddau pontio’r cenedlaethau yn datblygu a'r sgyrsiau am newid hinsawdd yn parhau."
Edrych ymlaen
Wrth i Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau 2025 dynnu sylw at brosiectau sy'n hyrwyddo dealltwriaeth rhwng cenedlaethau, mae prosiect OPTIC yn enghraifft o sut y gall trafodaethau hinsawdd bontio rhaniadau, meithrin undod ac arwain at effaith yn y byd go iawn.
Mae'r Comic Hinsawdd ar gael i’w lawrlwytho am ddim, gan gynnig ffordd greadigol i bobl ymuno yn y sgwrs ar newid hinsawdd.
I'r rhai sydd â diddordeb mewn llunio dyfodol trafodaethau hinsawdd rhwng y cenedlaethau, mae'r tîm ymchwil yn croesawu cyfranogiad drwy optic@swansea.ac.uk, ac mae ENRICH Cymru yn parhau i gefnogi partneriaethau ymchwil gyda chartrefi gofal ledled Cymru.