
"Roeddwn i'n teimlo fel pe bai fy nghyflwr yn cael ei gymryd o ddifrif o’r diwedd" - Sut mae ymchwil yn gwella bywydau'r rhai sydd â chlefyd seliag
2 Mai
Mae menyw o Abertawe sy'n byw gyda chlefyd seliag wedi canmol astudiaeth Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy'n archwilio effaith cynllun cerdyn wedi’i ragdalu sy'n helpu i dalu'r gost ychwanegol o brynu bwydydd heb glwten.
Dros 20 mlynedd yn ôl, cafodd Lisa Wilson ddiagnosis o glefyd seliag, cyflwr lle mae'ch system imiwnedd yn ymosod ar eich meinweoedd eich hun pan fyddwch chi'n bwyta glwten. Doedd hi ddim yn gwybod dim am y clefyd nac yn adnabod unrhyw un arall a oedd yn byw gyda’r clefyd, ac fe’i gadawodd hi’n teimlo'n 'ynysig'.
Ar y pryd, cafodd Lisa gynnig bwyd heb glwten trwy ei meddyg teulu ar bresgripsiwn yr oedd angen iddi ei gasglu o fferyllfa - proses a allai gymryd sawl diwrnod oherwydd yr angen i'w archebu ymlaen llaw, ac yn ddibynnol ar ba un a oedd eitemau mewn stoc neu beidio.
"[Mae] wedi newid popeth dros nos."
Dywedodd Lisa: "Pan symudodd fy ngŵr a minnau i orllewin Cymru ddeng mlynedd yn ôl, cynigwyd cerdyn wedi’i ragdalu i mi gan y bwrdd iechyd lleol i'w wario ar fwyd heb glwten, a newidiodd bopeth dros nos. Gallaf ei ddefnyddio mewn unrhyw le sy'n derbyn trafodiadau Mastercard a hyd yn oed ar-lein hefyd.
"Roedd bod â cherdyn y gallwn ei ddefnyddio yn benodol i brynu'r hyn yr oeddwn ei angen yn cael effaith fawr arnaf - roeddwn i'n teimlo fel pe bai fy nghyflwr yn cael ei gymryd o ddifrif o'r diwedd."
Trwy gyfweliadau â phobl fel Lisa sy'n manteisio ar y cynllun, sydd ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn unig ar hyn o bryd, canfu Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ei fod yn cynnig manteision sylweddol i gleifion, megis llai o faich ariannol, mwy o ddewis a chyfleustra.
Bydd canfyddiadau'r astudiaeth yn cael eu defnyddio i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun fel opsiwn i gleifion seliag ledled Cymru, gyda'r nod o leihau'r baich ariannol ar gleifion ac ar y system gofal iechyd.
Dywedodd Dr Natalie Joseph-Williams, Cyfarwyddwr Cyswllt Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a sefydlwyd yn 2023 i ddarparu tystiolaeth ymchwil hanfodol i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau: "Mae clefyd seliag yn gofyn am ddeiet heb glwten llym i atal cymhlethdodau hirdymor, ac mae gan y system bresgripsiynau bresennol gyfyngiadau.
"Mae'n hanfodol ein bod, trwy ymchwil, yn deall a yw ymyraethau fel y cynllun cerdyn cymhorthdal yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau cleifion mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig y triniaethau a'r gofal gorau posibl i bobl ledled Cymru a thu hwnt."
Nododd y tîm hefyd ffyrdd y gellid optimeiddio'r cynllun ar gyfer y rhai sydd eisiau manteisio arno, gan gynnwys ffyrdd gwell o reoli balansau cardiau a phartneriaethau gwell gyda manwerthwyr.
Meddai Lisa drachefn: "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd bobl yn tueddu i fabwysiadu 'deiet heb glwten', ond i bobl â chlefyd seliag nid oes y fath beth - mae'n gyflwr difrifol sy'n gallu eich gwneud chi'n sâl iawn a niweidio eich corff. Mae'n effeithio ar gymaint o agweddau ar ansawdd eich bywyd.
"Rwy'n credu ei bod yn wych bod ymchwil wedi dangos yr effaith gadarnhaol y mae'r cerdyn yn ei chael ar bobl â chlefyd seliag fel y gellir ei gyflwyno ledled Cymru er mwyn i fwy o bobl elwa."
Gallwch ddarllen mwy am yr astudiaeth ar wefan Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chofrestru i dderbyn ein cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf yn syth i'ch mewnflwch.