
Nod offeryn newydd yw gwella cynllunio teulu ar gyfer pobl ag arthritis llidiol
27 Awst
Mae ymchwilwyr y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi’u hariannu, wedi datblygu offeryn newydd i gefnogi pobl ag arthritis llidiol i gynllunio ar gyfer beichiogrwydd.
Crëwyd cynllunydd sgwrs astudiaeth FAMILIAR (FActors Influencing faMIly pLanning with an Inflammatory ARthritis) i wella'r penderfyniadau y mae cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu rhannu.
Mae'n helpu i ymdrin â bwlch mewn cymorth iechyd cyn beichiogi, gan fod rhieni’r dyfodol sy'n byw gyda diagnosis arthritis llidiol yn aml yn gorfod ystyried yn ofalus eu dewisiadau o ran dechrau teulu oherwydd eu symptomau ac o bosibl, bod yn ddibynnol ar feddyginiaethau a allai amharu ar feichiogrwydd diogel. Mae'r rhain yn ystyriaethau pwysig petai’r claf yn gobeithio cynllunio beichiogrwydd, neu’i atal yn ddiogel.
Cafodd y PhD, wedi’i ariannu gan ein Cynllun Ysgoloriaeth PhD Iechyd, ei arwain gan Dr Denitza Williams a'i gynnal gan Zoë Abbott ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Zoë wedi gweithio ym maes ymchwil iechyd ers 2008, gan ganolbwyntio ar reoli treialon, rheoli data, a chyflwyno ymchwil ac wedi dilyn ei PhD ar ôl cael diagnosis o Arthritis Gwynegol ei hun yn 27 oed.
Roedd y prosiect yn cynnwys grwpiau ffocws, a chyfweliadau â chleifion y GIG a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Cafodd y recriwtio cychwynnol ei weithredu drwy Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Athrofa Bryste, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a staff rhiwmatoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac yna cafodd ei ymestyn ledled y DU, drwy elusennau, rhwydweithiau colegol a'r cyfryngau cymdeithasol. Roedd yr elusennau a ddarparodd gefnogaeth helaeth yn cynnwys Yoga for AS, National Axial Spondyloarthritis Society (NASS), a Cymru Versus Arthritis, a Versus Arthritis.
Datgelodd y canfyddiadau fod sgyrsiau cynllunio teulu yn aml yn cael eu gohirio neu’u hosgoi, gyda chleifion a meddygon yn disgwyl i'r llall godi'r pwnc. Pan ddigwyddodd sgyrsiau, roedd y manylion yn aml yn cael eu hanghofio, gan adael menywod yn agored i wneud dewisiadau anwybodus.
Mae'r offeryn yn helpu i lywio trafodaethau rhwng menywod a'u darparwyr gofal iechyd, a'u partneriaid, gan godi agweddau allweddol ar iechyd cyn beichiogi, trafod pynciau fel diogelwch meddyginiaethau, rheoli clefydau, a phryderon ffrwythlondeb, i gefnogi gwneud penderfyniadau ar y cyd.
Adroddodd cleifion a staff gofal iechyd a adolygodd yr offeryn y bydd yn gwneud sgyrsiau’n haws ac yn fwy strwythuredig, gan wella cyfathrebu a chefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus. Cytunodd y ddau grŵp y dylai'r offeryn fod ar gael mewn clinigau ac ar-lein i wneud y mwyaf o hygyrchedd.
Dywedodd Zoë: "Un o brif amcanion y prosiect hwn oedd grymuso cleifion gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus wrth gynllunio teulu.
"Trwy gydol y broses, daeth pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol, dan arweiniad yn amlwg. Rydym yn gobeithio y bydd yr offeryn ar gael mewn clinigau ac ar-lein cyn bo hir i wneud i fenywod a'r rhai sy'n cael eu pennu’n fenywod adeg geni deimlo eu bod wedi'u cefnogi yn eu dewisiadau cynllunio teulu."
Y cam nesaf i’w astudio yw profi effeithiolrwydd y dyluniad mewn lleoliadau byd gwirioneddol, ac mae'r tîm ar hyn o bryd yn gweithio ar ddylunio a chael cyllid ar gyfer y gwaith hwn.
Am fwy o straeon ymchwil yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch i dderbyn y bwletin.