Zoe Abbott

Zoe Abbott

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Dyfarniad Ysgoloriaeth PhD Iechyd

Teitl y prosiect: Starting a family when you have inflammatory arthritis: can a co-production approach to creating pre-conception health improve the sustainability of NHS services?


Bywgraffiad

Mae Zoë Abbott yn ymgeisydd PhD a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn Is-adran Meddygaeth Boblogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n defnyddio methodolegau ansoddol (yn enwedig y dull Realydd) i ymchwilio i gyd-gynhyrchu fel dull o wella’r ffordd y gwneir penderfyniadau a rennir ym maes rhewmatoleg, gan fod menywod yn ystyried eu dewisiadau i ddechrau neu dyfu teulu tra y byddant yn aml yn ddibynnol ar feddyginiaethau a allai ymyrryd â beichiogrwydd diogel o bosibl.

Mae Zoë wedi bod yn gweithio mewn rolau amrywiol ym maes ymchwil iechyd ers 2008, gan gynnwys rheoli treialon, rheoli data ac amrywiol ddulliau casglu data. Mae wedi gweithio ar draws safleoedd gofal sylfaenol, eilaidd a’r trydydd sector, mewn astudiaethau canser a di-ganser, ar draws tri Bwrdd Iechyd yng Nghymru a dwy Ymddiriedolaeth GIG Lloegr. Mae'n mwynhau'r cyfle hwn i arwain ei phrosiect ymchwil ei hun drwy'r ysgoloriaeth ymchwil PhD Iechyd.


Yn y newyddion:

Ymchwil Zoë Abbott: Arthritis Rheumatoid a phenderfyniadau rhianta

Sefydliad

PhD Student at Cardiff University

Cyswllt Zoe

Ffôn: 02920 687782

E-bost

Twitter

LinkedIn