
Astudiaeth yn arwain at ganllawiau profi newydd ar gyfer oedolion â diabetes yng Nghymru
2 Mehefin
I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Diabetes (9-15 Mehefin), mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dathlu llwyddiant astudiaeth ymchwil sydd wedi’i chanmol yn rhyngwladol dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sydd wedi gwella canllawiau diagnosis i oedolion â diabetes yng Nghymru.
Mae gan Gymru y nifer mwyaf o achosion o ddiabetes o unrhyw wlad yn y DU, gyda thros 200,000 o bobl yn byw gyda’r cyflwr. Mae diabetes yn achosi i glwcos gwaed person godi’n rhy uchel, naill ai oherwydd nad yw’n cynhyrchu’r hormon inswlin (a elwir yn ddiabetes math 1), neu nad yw’n cynhyrchu digon ohono, neu nad yw’n gallu ei brosesu’n gywir (diabetes math 2).
Mae angen i bobl â diabetes math 1 fonitro’r lefelau glwcos yn eu gwaed yn agos a rhoi pigiadau inswlin sawl gwaith y dydd, a all fod â goblygiadau hirdymor o ran ansawdd bywyd y claf. O gymharu, gall rhai achosion o ddiabetes Math 2 gael eu rheoli trwy gyfuniad o ddeiet, ymarfer corff a meddyginiaethau drwy’r geg.
Roedd yr astudiaeth yn ymchwilio i weld a allai prawf C-peptid newydd, a dreialwyd yn flaenorol gan grŵp yng Nghaeredin, wella cywirdeb diagnosis trwy ailddosbarthu rhai cleifion yn rhai sydd â diabetes Math 2, yn hytrach na Math 1.
Mae C-peptid yn fiomarciwr a all ddangos faint o inswlin sydd gan rywun wrth gefn. Ceisiodd y tîm Endocrinoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ganfod a oedd yn bosibl cefnogi cleifion yr oedd eu samplau gwaed yn dangos crynodiad o C-peptid uwchlaw lefel benodol i leihau, neu hyd yn oed atal, eu pigiadau inswlin dyddiol, gan wella eu hansawdd bywyd yn yr hirdymor.
Aeth yr astudiaeth ati i werthuso bron i 400 o gleifion, y cafodd 36 ohonynt eu hailddosbarthu’n rhai sydd â diabetes math 2. Cefnogwyd 21 o unigolion i atal eu hinswlin yn llwyr, gan arwain at wella rheoli glwcos, BMI ac ansawdd bywyd hunan-adroddedig.
Ers hynny, mae’r astudiaeth wedi arwain at ddatblygu canllawiau profi C-peptid ar gyfer cleifion sy’n oedolion â diabetes ledled Cymru, sydd bellach yn cael eu defnyddio ym mhob ysbyty. Derbyniodd anrhydedd hefyd gan raglen fyd-eang UNIVANTS of Healthcare Excellence.
Dywedodd Dr Arshiya Tabasum, ymchwilydd arweiniol ac Endocrinolegydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro,
Trwy ymgorffori profion C-peptid mewn ymarfer clinigol, rydyn ni wedi gallu sefydlu diagnosis mwy manwl gywir o ddiabetes, darparu triniaeth sy’n canolbwyntio ar y claf a thynnu inswlin yn ôl yn ddiogel ac yn effeithiol, gan wella ansawdd bywyd ein cleifion.”
Dywedodd yr Athro Steve Bain, Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Diabetes, “Mae diabetes yn gyflwr cymhleth sy’n gofyn am reolaeth ofalus bob dydd. Bydd ymchwil fel hon yn cael effaith go iawn ar y miloedd lawer o bobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru, yn ogystal ag ar gleifion yn y dyfodol.”