Yr Athro Steve Bain

Yr Athro Steve Bain

Arweinydd Arbenigol ar gyfer Diabetes Cyfarwyddwr Clinigol yr Uned Ymchwil Diabetes

Steve Bain yw Cyfarwyddwr Clinigol yr Uned Ymchwil Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Meddygol Ymchwil a Datblygu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Cwblhaodd yr Athro Bain ei hyfforddiant i israddedigion yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt ac yna cafodd ei hyfforddiant clinigol yn Ysbyty King’s College, Llundain. Ar ôl cymhwyso yn 1983, aeth ymlaen i ddal is-benodiadau yn Llundain a Chanolbarth Lloegr. Roedd ei ymchwil yn canolbwyntio ar eneteg diabetes math 1 a dyfarnwyd Darlithyddiaeth y Cyngor Ymchwil Feddygol iddo. Yn 1993, daeth yn Uwch Ddarlithydd/Meddyg Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ysbyty Heartlands Birmingham, ac yna cafodd ddyrchafiad yn Ddarllenydd mewn Meddygaeth Ddiabetig yn 1998. Daeth yr Athro Bain yn Gymrawd o Goleg Brenhinol Meddygon y DU yn 1996.

Penodwyd yr Athro Bain i Gadair a oedd wedi’i chreu o’r newydd mewn Meddygaeth (Diabetes) ym Mhrifysgol Cymru Abertawe yn 2005. Mae ei ddiddordeb clinigol yn cynnwys geneteg neffropathi diabetig, therapïau newydd ar gyfer diabetes a darpariaeth gwasanaethau diabetig yn y gymuned. Mae wedi bod yn Brif Ymchwilydd i sawl treial aml-ganolfan yn ymchwilio i therapïau newydd ar gyfer diabetes.

Yr Athro Bain yw Clinigydd Arweiniol Diabetes Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac mae’n cadeirio’r Cyd-Gyfleuster Ymchwil Glinigol yn Abertawe ac roedd yn Gyfarwyddwr Clinigol y Cydweithrediad Gwyddor Iechyd Academaidd yng Nghymru tan fis Medi 2015. Bu’n cadeirio Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol Diabetes ac Endocrinoleg Cymru rhwng 2010-2017 ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd y Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol ar Ddiabetes yng Nghymru.

 


Darllenwch fwy am eu gwaith:

Gweinidog yn ymweld â chanolfan ymchwil Cymru sy’n ymwneud ag ymchwil ryngwladol i sglerosis ymledol a diabetes (Mai 2022)

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Mae triniaeth inswlin wythnosol yn cynnig gobaith i bobl â diabetes yng Nghymru (Ionawr 2022)

Sefydliad

Uned Ymchwil Diabetes

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cysylltwch â Steve

E-bost

Ffôn: 02921848449