
Dyfarnu grant i Ganolfan Dystiolaeth i ddatblygu ffordd well o gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil gyflym
5 Mehefin
Nod astudiaeth newydd dan arweiniad Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw gwella'r ffordd y mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu cynnwys mewn ymchwil gyflym, dull sy'n canolbwyntio ar gyflawni canfyddiadau cadarn mewn cyfnod byr.
Dyfarnwyd dros £600,000 i'r Ganolfan gan gynllun dyfarniadau 'Gwell Ddulliau, Gwell Ymchwil' y Cyngor Ymchwil Feddygol i archwilio'r ffordd orau o gefnogi cynnwys y cyhoedd yn effeithiol yn y math hwn o ymchwil, sy'n llywio'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch polisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn wahanol i astudiaethau ymchwil eraill sy'n aml yn para sawl blwyddyn, mae ymchwil gyflym yn digwydd dros dri i chwe mis. Gall y pynciau hefyd fod yn gymhleth a chynnwys Llywodraeth Cymru, y GIG a gofal cymdeithasol. Gall hyn ei gwneud yn anoddach i aelodau o'r cyhoedd gael effaith ystyrlon ar yr ymchwil.
Gyda'r nod o ddatblygu adnoddau ymarferol a chynhwysol i gefnogi timau ymchwil i gynnwys y cyhoedd, bydd y Ganolfan yn defnyddio adolygiadau o dystiolaeth ymchwil, arsylwadau, cyfweliadau a grwpiau ffocws i ateb cwestiynau allweddol, gan gynnwys:
- Pryd a sut mae'r cyhoedd yn cael eu cynnwys mewn ymchwil gyflym?
- Pa ddylanwad y maent yn ei gael, a beth yw'r rhwystrau i gyfranogiad ystyrlon?
- Pa hyfforddiant neu offer sydd eu hangen ar ymchwilwyr a'r cyhoedd i wella cyfranogiad a dangos effaith?
- A yw rhai cymunedau wedi'u tangynrychioli yn y math hwn o ymchwil, a pha gefnogaeth sydd ei angen arnynt i gymryd rhan yn y math hwn o ymchwil?
Dywedodd Dr Natalie Joseph-Williams, Cyfarwyddwr Cyswllt Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae'n hanfodol cynnwys lleisiau pobl sydd â phrofiad bywyd ym mhob ymchwil, yn enwedig pan fydd y canfyddiadau'n llywio penderfyniadau polisi ac ymarfer pwysig. Yn y pen draw, mae eu mewnbwn yn sicrhau bod yr ymchwil yn adlewyrchu anghenion y rhai y mae'n anelu at helpu.
Mae'r cyhoedd wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud yn y Ganolfan, ac rydym am sicrhau bod eu cyfranogiad mor ystyrlon ac effeithiol â phosibl.
"Mae heriau unigryw i ymchwil gyflym sy'n gallu ei gwneud yn anoddach i'r cyhoedd gymryd rhan a gweld yr effaith maen nhw'n ei chael ar yr ymchwil. Rydym yn falch y byddwn yn gallu ymchwilio i'r pwnc hanfodol hwn diolch i grant gan 'Gwell Ddulliau, Gwell Ymchwil’ gan y Cyngor Ymchwil Feddygol."
Bydd y prosiect, dan arweiniad Dr Joseph-Williams, Dr Denitza Williams, Cyd-Arweinydd Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd, a Libby Humphris, Arweinydd Partner Cyhoeddus, hefyd yn canolbwyntio ar gynhwysiant a hygyrchedd i alluogi pobl o gymunedau na chaiff eu gwasanaethu’n ddigonol i gymryd rhan ystyrlon mewn lleoliadau ymchwil cyflym.
Dywedodd Sarah Peddle, aelod o'r cyhoedd a fu'n rhan o'r cais am grant a bydd yn cyd-arwain rhan o'r astudiaeth sy'n ystyried 'Nodi effaith mewn ymchwil gyflym':
"Mae ymchwil gyflym yn allweddol o ran rhoi cyngor i wneuthurwyr polisi a gwneud newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n gwneud pethau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Byddem ni’n colli cyfle pe na bai gennym lais y cyhoedd a chleifion yn rhan o ymchwil. Byddem yn ei gwneud yn ddall i ryw raddau.
“Gallwch chi wneud gwahaniaeth.
"Does dim rhaid i chi wybod sut mae pethau'n cael eu gwneud. Does dim rhaid i chi wybod y derminoleg ar gyfer dod â gwybodaeth at ei gilydd ac ati. Does dim ond rhaid i chi fod eisiau gwneud gwahaniaeth a bod â diddordeb."
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr astudiaeth hon a gwaith y Ganolfan, tanysgrifiwch i dderbyn bwletin Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.