
Gweminar y gyfadran: Dyfarniad Datblygu Cais NIHR – beth, pam, ble, pryd, pwy, sut? gyda Dr Emma Rees
Yn y weminar hon bydd Dr Emma Rees yn rhannu ei phrofiadau personol o ddatblygu cais llwyddiannus am grant yn ddiweddar gyda'r nod o gynnig awgrymiadau ymarferol a allai fod yn ddefnyddiol i eraill.
Mae Dr Emma Rees yn wyddonydd clinigol profiadol sy'n arbenigo mewn sganiau calon uwchsain. Dechreuodd ei gyrfa yn GIG Cymru yng Nghanolfan Gardioleg Ysbyty Treforys, Abertawe lle bu'n gweithio am 10 mlynedd cyn symud i Brifysgol Abertawe i rôl a oedd yn cyfuno gwaith clinigol ac academaidd. Emma oedd cyn-gyfarwyddwr rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd (cardioleg), rhaglen addysg a gomisiynwyd sy'n cael ei chynnal ar sail Cymru gyfan.
Ers cwblhau ei PhD yn Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru, mae Emma wedi bod yn datblygu rhaglen o arloesi ac ymchwil glinigol i wella gofal cleifion drwy ddefnyddio uwchsain y galon mewn lleoliadau y tu allan i'r ysbyty. Mae ei hymchwil gyfredol yn cyfuno effeithiolrwydd clinigol a dulliau gwyddoniaeth gweithredu.
mailto:Research-Faculty@wales.nhs.uk?subject=Faculty%20webinar%20-%20Tim%20Pickles
Emma yw'r arweinydd gwyddonol ar gyfer clinig sgan y galon newydd mewn Academi Iechyd a Llesiant arobryn ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi hefyd yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Ecocardiograffeg Prydain ac yn olygydd i'r cyfnodolyn Echo Research and Practice.