Dr Emma Rees

Dr Emma Rees

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Dyfarniad Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd (2022 - 2026)

Teitl y prosiect: In older people with suspected heart failure, does adding a focused ultrasound scan to the current community pathway improve health care quality? (HF-FOCUS)


Bywgraffiad

Mae Dr Emma Rees yn wyddonydd clinigol profiadol sy’n arbenigo mewn sganiau uwchsain y galon. Dechreuodd ei gyrfa yn GIG Cymru yng Nghanolfan y Galon Ysbyty Treforys, Abertawe lle bu’n gweithio am 10 mlynedd cyn symud i Brifysgol Abertawe i wneud swydd a oedd yn cyfuno gwaith clinigol ac academaidd. Emma oedd y cyn-gyfarwyddwr rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd (cardioleg), rhaglen addysg a gomisiynwyd sy’n rhedeg ar sail Cymru gyfan. Ers cwblhau ei doethuriaeth yn Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru, mae Emma wedi bod yn datblygu rhaglen o arloesedd ac ymchwil glinigol i wella gofal cleifion trwy ddefnyddio uwchsain y galon mewn lleoliadau y tu allan i’r ysbyty. Mae ei gwaith ymchwil presennol yn cyfuno effeithiolrwydd clinigol a dulliau gwyddor weithredu.

Emma yw arweinydd gwyddonol clinig sganio’r galon newydd mewn Academi Iechyd a Llesiant arobryn ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Ecocardiograffeg Prydain ac yn olygydd trin i’r cyfnodolyn Echo Research and Practice.


Darllen mwy am Emma a’u gwaith::

£6.4 miliwn i gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol ac iechyd hanfodol yng Nghymru

 

Sefydliad

Associate Professor of Healthcare Science at Swansea University

Cyswllt Emma 

Ffôn: 07913 095144

E-bost

Twitter