
Cwrs byr: Arloesedd Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus: Gwerthuso’r broses
Manylion y cwrs
Nod y cwrs undydd hwn, dan arweiniad y Cymrawd Ymchwil Dr Rachel Brown, yw cynnig gwybodaeth dda am theori ac ymarfer gwerthuso ymyriadau cymhleth drwy broses.
Mae’r tîm addysgu yn cynnwys awduron o sawl darn empirig a methodolegol o waith sy’n gysylltiedig â gwerthuso prosesau, gan gynnwys Dr Rhiannon Evans a Dr Jeremy Segrott.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?
- Rôl gwerthuso prosesau wrth ddeall ymyriadau cymhleth
- Pwysigrwydd damcaniaeth ymyrryd a modelau rhesymeg
- Cywirdeb a gweithredu ymyriadau cymhleth
- Materion ynghylch adnoddau a pherthnasoedd
- Pennu cwestiynau a chyfuno dulliau
I bwy mae’r cwrs hwn?
Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, yn benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.
Mae'r cwrs hwn wedi'i redeg gan DECIPHer, os gwelwch yn dda cysylltwch â hwy'n uniongyrchol ar gyfer unrhyw ymholiadau.
-
SBARC / SPARK, Cardiff University, CF24 4HQ