Beth am helpu i lunio ymchwil i driniaeth ffibromyalgia?

Mae Prifysgol Caerdydd yn datblygu astudiaeth ymchwil newydd i archwilio a allai Dadsensiteiddio Symudiadau Llygaid ac Ailbrosesu (EMDR) – therapi seicolegol a ddefnyddir i drin trawma – hefyd helpu i leihau poen a gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw gyda ffibromyalgia.

Mae EMDR eisoes yn driniaeth lwyddiannus ar gyfer cyflyrau sy'n gysylltiedig â thrawma fel Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD). Mae ymchwilwyr erbyn hyn, yn archwilio a allai hefyd helpu i leihau poen a gwella ansawdd bywyd unigolion sy'n byw gyda ffibromyalgia. Er mwyn sicrhau bod yr ymchwil yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau gwirioneddol pobl â ffibromyalgia, mae'r tîm yn gwahodd unigolion â phrofiad bywyd i gymryd rhan mewn grŵp ffocws ar-lein. Bydd eu dealltwriaeth yn helpu i lunio'r astudiaeth, gan ei gwneud yn fwy ystyrlon ac yn canolbwyntio ar y claf. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfrannu at ymchwil a allai arwain at ddewisiadau triniaeth newydd ar gyfer ffibromyalgia i gysylltu. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu cyn y cyfarfod fel y gall cyfranogwyr ei hadolygu ymlaen llaw.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Rydym yn chwilio am bobl sydd:

  • Â diagnosis ffibromyalgia neu wedi dioddef symptomau sy'n gyson â ffibromyalgia.
  • Yn barod i rannu eu barn a'u profiadau mewn lleoliad grŵp ar-lein parchus.
  • Â diddordeb helpu i lunio ymchwil a allai wella dewisiadau triniaeth.
  • Yn gyfforddus yn defnyddio Zoom neu lwyfannau ar-lein tebyg (gallwn gynnig cefnogaeth os oes angen).
  • Nid oes angen unrhyw gefndir ymchwil, academaidd neu glinigol arnoch - eich profiad chi yw'r hyn sy'n bwysig. 
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Os byddwch yn dewis cymryd rhan, cewch eich gwahodd i ymuno â grŵp ffocws ar-lein untro, a fydd yn para tua 60 i 90 munud.

Yn ystod y sesiwn, byddwn yn gofyn i chi am eich barn ar bethau fel:

  • Sut beth yw byw gyda ffibromyalgia
  • Pa fath o gefnogaeth neu driniaethau sydd wedi helpu (neu sydd heb helpu)
  • Beth ydych chi'n ei feddwl am y syniad o ddefnyddio therapi EMDR ar gyfer ffibromyalgia
  • Beth fyddai'n ei gwneud hi'n haws neu'n anoddach i bobl gymryd rhan yn y math hwn o astudiaeth

Bydd popeth yr ydych chi'n ei rannu yn cael ei gadw'n gyfrinachol, a gallwch ddewis faint neu gyn lleied yr hoffech ei gyfrannu.

Pa mor hir fydd fy angen?

Byddwch yn cymryd rhan mewn un grŵp ffocws ar-lein yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 21 Gorffennaf 2025, a fydd yn para tua 60 i 90 munud.

Byddwn yn anfon rhywfaint o wybodaeth atoch am y prosiect ychydig ddyddiau ymlaen llaw, fel bod gennych amser i’w darllen cyn y sesiwn.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?

Manteision i chi :

  • Rhannu’ch profiadau o fyw gyda ffibromyalgia i helpu i lunio ymchwil a allai arwain at ddewisiadau triniaeth gwell
  • Sicrhau bod yr astudiaeth yn berthnasol ac yn barchus, ac yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysicaf i bobl â ffibromyalgia
  • Dylanwadu ar sut mae ymchwilwyr yn dylunio'r astudiaeth, gan gynnwys sut mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu cefnogi a pha ganlyniadau sy'n cael eu mesur
  • Cyfrannu at ymchwil sy'n canolbwyntio ar y claf, gan helpu i sicrhau bod astudiaethau yn y dyfodol yn bodloni anghenion y rhai y maent yn anelu at eu cefnogi yn y byd go iawn.
  • Bod yn rhan o grŵp cefnogol lle mae’ch profiad bywyd yn cael ei werthfawrogi a'i barchu
 Pa gefnogaeth sydd ar gael?

  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol, 
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).

  • Darllenwch ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
  • Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag Ymchwil.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Online

Sefydliad Lletyol:
Cardiff University

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm