Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymchwil gwella iechyd y cyhoedd?
Darparu cyngor, arweiniad ac adborth adeiladol ar waith canolfan ymchwil iechyd y cyhoedd sefydledig yng Nghymru.
Mae DECIPHer yn ganolfan ymchwil gwella iechyd y cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd, a sefydlwyd yn 2010. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu, gwerthuso a gweithredu ymyriadau i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru a thu hwnt.
Fel rhan o gymuned Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae DECIPHer wedi sicrhau cyllid ar gyfer y pum mlynedd nesaf (2025-2030) yn ddiweddar ac mae'n awyddus i recriwtio un i ddau aelod o’r cyhoedd i helpu i fonitro ei strategaeth ymchwil a'i gynnydd yn ystod y cyfnod hwn
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- Dealltwriaeth dda o ymchwil iechyd y cyhoedd
- Bod â diddordeb mewn gwella iechyd, a lleihau anghydraddoldebau iechyd, i bobl yng Nghymru a thu hwnt
- Yn gyfforddus â rhannu cyngor, arweiniad ac adborth beirniadol ar gynnydd canolfan ymchwil gwella iechyd cyhoeddus sefydledig yng Nghymru.
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
- Ymuno â Bwrdd Cynghori Allanol i ddarparu cyngor, arweiniad ac adborth beirniadol ar ymchwil a chynnydd DECIPHer
- Helpu i fonitro amcanion y Ganolfan a'i strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd
- Cysylltu â chi o bryd i'w gilydd am gyngor arbenigol rhwng cyfarfodydd.
- Pa mor hir fydd fy angen?
Gofynnir i chi fynychu cyfarfodydd blynyddol sy'n para rhwng awr a hanner a thair awr. Yn ogystal â hyn, bydd angen i chi neilltuo awr neu ddwy ar gyfer paratoi a darllen cyn pob cyfarfod. Bydd angen ymrwymiad rhwng 2025 a 2030, gyda chyfathrebu parhaus rhwng cyfarfodydd am unrhyw gyngor arbenigol a allai fod ei angen.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
- Llunio ymchwil iechyd y cyhoedd sydd â’r nod o wella bywydau a lleihau anghydraddoldebau.
- Cael dealltwriaeth o sut mae prosiectau ymchwil yn cael eu datblygu a'u gweithredu.
- Datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel meddwl beirniadol a chyfathrebu.
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Bydd DECIPHer yn:
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol.
- Cynnig taliad am amser o hyd at £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Derbyn cefnogaeth a hyfforddiant gan arbenigwyr trwy gydol eich cyfranogiad. Dr Hayley Reed fydd eich prif bwynt cyswllt. Bydd yn trafod unrhyw anghenion hyfforddi a chefnogaeth a bydd yn rhoi trosolwg o waith y Ganolfan.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.
Cwblhewch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein ac yn bersonol. Cynhelir cyfarfodydd personol ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (Spark | Sbarc)
Sefydliad Lletyol:
Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm