Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymchwil gwella iechyd y cyhoedd?

Darparu cyngor, arweiniad ac adborth adeiladol ar waith canolfan ymchwil iechyd y cyhoedd sefydledig yng Nghymru.

Mae DECIPHer yn ganolfan ymchwil gwella iechyd y cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd, a sefydlwyd yn 2010. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu, gwerthuso a gweithredu ymyriadau i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru a thu hwnt. 

Fel rhan o gymuned Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae DECIPHer wedi sicrhau cyllid ar gyfer y pum mlynedd nesaf (2025-2030) yn ddiweddar ac mae'n awyddus i recriwtio un i ddau aelod o’r cyhoedd i helpu i fonitro ei strategaeth ymchwil a'i gynnydd yn ystod y cyfnod hwn

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
  • Dealltwriaeth dda o ymchwil iechyd y cyhoedd
  • Bod â diddordeb mewn gwella iechyd, a lleihau anghydraddoldebau iechyd, i bobl yng Nghymru a thu hwnt
  • Yn gyfforddus â rhannu cyngor, arweiniad ac adborth beirniadol ar gynnydd canolfan ymchwil gwella iechyd cyhoeddus sefydledig yng Nghymru. 
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
  • Ymuno â Bwrdd Cynghori Allanol i ddarparu cyngor, arweiniad ac adborth beirniadol ar ymchwil a chynnydd DECIPHer
  • Helpu i fonitro amcanion y Ganolfan a'i strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd
  • Cysylltu â chi o bryd i'w gilydd am gyngor arbenigol rhwng cyfarfodydd.
Pa mor hir fydd fy angen?

Gofynnir i chi fynychu cyfarfodydd blynyddol sy'n para rhwng awr a hanner a thair awr. Yn ogystal â hyn, bydd angen i chi neilltuo awr neu ddwy ar gyfer paratoi a darllen cyn pob cyfarfod. Bydd angen ymrwymiad rhwng 2025 a 2030, gyda chyfathrebu parhaus rhwng cyfarfodydd am unrhyw gyngor arbenigol a allai fod ei angen.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Llunio ymchwil iechyd y cyhoedd sydd â’r nod o wella bywydau a lleihau anghydraddoldebau.
  • Cael dealltwriaeth o sut mae prosiectau ymchwil yn cael eu datblygu a'u gweithredu.
  • Datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel meddwl beirniadol a chyfathrebu.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Bydd DECIPHer yn:

  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol.
  • Cynnig taliad am amser o hyd at £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
  • Derbyn cefnogaeth a hyfforddiant gan arbenigwyr trwy gydol eich cyfranogiad. Dr Hayley Reed fydd eich prif bwynt cyswllt. Bydd yn trafod unrhyw anghenion hyfforddi a chefnogaeth a bydd yn rhoi trosolwg o waith y Ganolfan. 

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.

Cwblhewch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein ac yn bersonol. Cynhelir cyfarfodydd personol ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (Spark | Sbarc)

Sefydliad Lletyol:
Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm