Helpu i lywio ymchwil ar gyfreithiau fepio yn y DU
Mae Prifysgol Caerdydd yn gwahodd pobl ifanc 14–21 oed sydd â phrofiad o fepio i helpu i lunio ymchwil ar effaith deddfau fepio a thybaco newydd y DU.
Mae Prifysgol Caerdydd yn datblygu prosiect ymchwil i ddeall sut y bydd y cyfreithiau newydd yn y DU sy'n gwahardd fêps tafladwy o fis Mehefin 2025 a'r ddeddfwriaeth tybaco sydd ar ddod yn effeithio ar bobl ifanc. Mae Prifysgol Caerdydd yn chwilio am bobl ifanc 14–21 oed sydd â phrofiadau o fepio i ymuno â grwpiau bach ar-lein a helpu i lywio'r ymchwil.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
• Profiad o fepio, neu’n adnabod pobl eraill sy’n fepio
• Yn barod i rannu’ch barn mewn grŵp trafod bach, anffurfiol ar-lein- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ar-lein awr o hyd gyda nifer bach o bobl ifanc eraill (hyd at bedwar ym mhob grŵp).
Yn ystod y sesiwn, gofynnir i chi wneud y canlynol:
• Rhannu’ch meddyliau ynghylch ein syniad ymchwil
• Helpu i lywio’r cwestiynau rydym yn bwriadu eu gofyn i bobl ifanc mewn cyfweliadau yn y dyfodol
• Awgrymu ffyrdd y gallwn recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan yn yr astudiaeth
• Rhoi adborth ar sut rydym yn siarad am fepio a defnyddio nicotin
Nid oes angen i chi baratoi unrhyw beth na chael unrhyw wybodaeth arbennig. Byddwn yn arwain y drafodaeth ac yn egluro popeth yn glir.- Am ba hyd y byddwch fy angen?
Ar y cam hwn, rydym yn gofyn i chi roi awr o'ch amser yn unig i gymryd rhan mewn grŵp trafod ar-lein.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Drwy gymryd rhan, cewch gyfle i wneud y canlynol:
• Llywio ymchwil go iawn a allai ddylanwadu ar gyfreithiau a pholisïau am fepio a thybaco
• Rhannu’ch barn a helpu ymchwilwyr i ddeall beth sy'n bwysig i bobl ifanc
• Cael profiad o gymryd rhan mewn prosiect ymchwil
• Datblygu sgiliau cyfathrebu, gweithio fel tîm a meddwl yn feirniadol
• Cwrdd â phobl ifanc eraill a chyfrannu at rywbeth a allai wneud gwahaniaeth- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- • Esboniadau clir o’r ymchwil a’i diben
• Daperir cwestiynau’r drafodaeth yn ystod y sesiwn – nid oes angen i chi baratoi
• Amseru hyblyg
• Unigolyn cyswllt a enwir y gallwch ei e-bostio gydag unrhyw gwestiynau cyn neu ar ôl y sesiwn
• Cynnig taliad am amser o hyd at £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
• Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.
- • Esboniadau clir o’r ymchwil a’i diben
Cwblhewch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Caerdydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm