Helpwch i lunio dyfodol ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Defnyddiwch eich safbwynt i helpu i benderfynu pa brosiectau ymchwil sy'n cael eu hariannu.

Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn helpu ymchwilwyr i dyfu eu gyrfaoedd. Mae'r Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu yn grant personol sy'n rhoi cyfle i ymchwilwyr neilltuo amser i wneud ymchwil ochr yn ochr â'u gwaith arferol.

Byddwch yn darparu adborth amhrisiadwy ar geisiadau ac yn cyfrannu at y broses ddethol ar gyfer y Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
  • Profiad o fod yn rhan o banel cyllido ac adolygu ceisiadau am gyllid.
  • Y gallu i werthuso ceisiadau a darparu adborth adeiladol.
  • Yn gyfarwydd â phrosesau cyllido yn y sectorau iechyd neu ofal cymdeithasol.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
  • adolygu ceisiadau am gyllid a rhoi eich barn a'ch adborth. Bydd hyn yn helpu i benderfynu pa brosiectau ymchwil sy'n derbyn cyllid.
  • cymryd rhan mewn cyfarfod panel undydd (wyneb yn wyneb neu rithwir) ar 10 Rhagfyr 2025.
  • bod mewn cyn-gyfarfod am awr i baratoi ar gyfer cyfarfod y panel.
Pa mor hir fydd fy angen?
  • Gofynnir i chi fod yn bresennol ym mhrif gyfarfod y panel, a gynhelir rhwng 09:00 a 17:00 ar 10 Rhagfyr.
  • Bydd angen i chi fod mewn cyn-gyfarfod am awr cyn y panel.
  • Bydd gofyn i chi adolygu'r ceisiadau cyn y cyfarfod, ac rydym yn rhagweld y bydd hyn yn cymryd tua diwrnod.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Profiad gwerthfawr o brosesau adolygu a chyllido panel o fewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Cyfrannu at benderfyniadau sy'n cefnogi ymchwil ac ymchwilwyr yng Nghymru yn y dyfodol.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £150.00 (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
  • Bydd tîm y Gyfadran yn darparu cefnogaeth a bydd yn penodi person cyswllt i'ch tywys drwy'r broses.
  • Cyn y panel, byddwch yn cwrdd â thîm y Gyfadran a fydd yn esbonio'r hyn sy'n ddisgwyliedig ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn. 

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein ac yn bersonol

Sefydliad Lletyol:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm