audience gynhadledd

Galwad 5 Cynllun Ariannu Integredig Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

28 Awst

Mae'n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi y bydd yr alwad nesaf ar gyfer y Cynllun Ariannu Integredig yn agor ar 3 Medi 2025.

Mae gan y Cynllun Ariannu Integredig ddwy gangen dan arweiniad ymchwilwyr sy'n canolbwyntio ar:

Bydd y galwadau yn cael eu hasesu trwy broses ymgeisio dau gam. Bydd angen i geisiadau Cam 1 gyflwyno achos dros bwysigrwydd yr ymchwil a’r angen amdani ac amlinellu'r dull methodolegol o fynd i'r afael â'r cwestiwn ymchwil, a bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar a yw'r achos wedi’i wneud dros ei blaenoriaethu. Ar ôl asesu, gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyflwyno cais Cam 2 llawn a fydd yn cael ei adolygu gan gymheiriaid a'i asesu gan Fwrdd Ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am ei ansawdd gwyddonol.

Dyddiad cau i wneud cais: 13:00 Dydd Mercher 15 Hydref 2025

Diben a chylch gwaith

Bydd y gangen Ymchwil Trosi a Chlinigol yn cefnogi ymchwil glinigol o’r cam trosi i’r camau diweddarach, gyda'r pwyslais ar ymchwil sydd â’r nod o roi diagnosis, atal ac ymyrraeth gynnar, datblygu triniaeth neu wella triniaeth ar gyfer clefydau a chyflyrau sy'n effeithio ar bobl yng Nghymru, neu sy’n arbennig o berthnasol iddynt.

Bydd y gangen Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd yn ariannu ymchwil sy'n canolbwyntio ar drefnu a darparu gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol neu faterion iechyd y cyhoedd, gan gynnwys atal ac iechyd y boblogaeth, sy'n bwysig yng Nghymru.

Cymhwysedd ar gyfer y cynllun

  • Rhaid i ymgeiswyr arweiniol a chyd-arweiniol fod wedi'u lleoli mewn sefydliad neu fudiad yng Nghymru ar adeg gwneud y cais (neu fod wedi cael cynnig swydd fydd yn golygu y byddant wedi'u lleoli yn y sefydliad lletyol cyn i'r prosiect ddechrau).
  • Rhaid i ymgeiswyr arweiniol a chyd-arweiniol fod â PhD, UK MD neu ddoethuriaeth broffesiynol arall sy'n seiliedig ar ymchwil ym maes iechyd neu ofal (derbynnir ceisiadau gan y rhai sydd wedi cyflwyno eu traethawd PhD yn ddiweddar, neu gyfwerth, i'w sefydliad i'w hasesu, cyn belled â bod y doethuriaeth yn cael ei dyfarnu cyn i'r grant ddechrau) neu fod â hanes cyfatebol o brofiad ymchwil ar adeg gwneud cais.
  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymchwilwyr gyrfa gynnar (a ddiffinnir yma fel unigolyn nad oes ganddo fwy na 60 mis o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol, ac eithrio, er enghraifft, seibiannau gyrfa, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth a salwch), a'r rhai sy'n ceisio dod yn ymchwilwyr arweiniol am y tro cyntaf.

Dylai darpar ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod ymchwil arfaethedig sy'n dod o fewn cwmpas unrhyw un o raglenni'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) sy'n agored i'r cenhedloedd datganoledig yn annhebygol o fod yn gymwys i gael cyllid gan y Cynllun Ariannu Integredig heb gyfiawnhad priodol a llawn gan yr ymgeiswyr. Os yw'r ymgeisydd yn ansicr bod ei ymchwil yn rhan o gwmpas un o raglenni NIHR, dylai ymgeiswyr gysylltu â'r rhaglen NIHR i gadarnhau. Mae gwybodaeth gan gynlluniau ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am raglenni NIHR cymwys. Sylwer, fodd bynnag, y gall ymgeiswyr wneud cais i'r Cynllun Ariannu Integredig am ymchwil sydd ei angen i baratoi ar gyfer ceisiadau ar gyfer astudiaethau mwy a chyfnod diweddarach i NIHR a chyllidwyr ymchwil eraill, ac anogir ceisiadau o'r fath.

Sylwch hefyd fod ceisiadau a allai fod o fewn cwmpas rhaglenni ariannu NIHR ond sydd â phwyslais penodol ar Gymru, megis ymateb i bolisïau iechyd a gofal cymdeithasol penodol i Gymru, anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, neu gyd-destunau darparu gwasanaethau, fod yn gymwys ac yn debygol o gael eu derbyn gan y Cynllun Ariannu Integredig.

Dylai ymgeiswyr sy'n dymuno ymgymryd ag ymchwil labordy cam diweddar neu drosi cyfnod cynnar yn y gangen ymchwil trosi a chlinigol esbonio a chyfiawnhau pam eu bod yn gwneud cais i'r Cynllun Ariannu Integredig ar yr adeg hon ac nid i'r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).

Mae gofynion cylch gwaith llawn a chymhwysedd ar gael ar dudalennau'r cynlluniau unigol.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin wythnosol i gael y newyddion diweddaraf am ein cynlluniau ariannu.