Cynllun Ariannu Integredig - Cangen 2: Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd
Bydd y gangen hon yn ariannu ymchwil sy’n canolbwyntio ar drefnu a darparu gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol neu faterion iechyd y cyhoedd, gan gynnwys atal ac iechyd y boblogaeth, sy’n bwysig yng Nghymru.
Sylwch fod y cynllun ariannu yn cael ei asesu drwy broses ymgeisio dau gam.
Cynllun Ariannu Integredig – Llinell Amser Galwad 3
Lansiad Cam 1: Dydd Mawrth 3 Medi 2024
Cam 1 yn cau: Dydd Iau 24 Hydref 2025
Lansiad Cam 2: Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2024
Cam 2 yn cau: Dydd Mercher 5 Mawrth 2025 am 13:00
Argymhellion y bwrdd ariannu: Medi 2025
Dechrau’r prosiectau a ariennir: 1 Hydref 2025
Cyflwynir ceisiadau Cam 2 drwy wahoddiad yn unig.
Bydd gan yr alwad dan arweiniad ymchwilydd un pwynt ymgeisio y flwyddyn, a fydd yn lansio ym mis Medi. Bydd gan gangen ar gyfer galwadau ymchwil â ffocws, fel rhan o’r Cynllun Ariannu Integredig, un pwynt ymgeisio y flwyddyn, a fydd yn lansio yn y gwanwyn.
Cylch gwaith y Cynllun Ariannu Integredig a chymhwystra ar ei gyfer - Cangen 2: Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd
Pwrpas a chylch gwaith
Bydd y gangen Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd yn ariannu ymchwil sy’n canolbwyntio ar drefnu a darparu gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol neu faterion iechyd y cyhoedd, gan gynnwys atal ac iechyd y boblogaeth, sy’n bwysig yng Nghymru.
Gallai prosiectau, er enghraifft:
- astudio’r ffordd y caiff gwasanaethau’r GIG a/neu ofal cymdeithasol eu darparu a’u defnyddio
- archwilio’r ffordd y caiff adnoddau eu defnyddio neu ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol
- mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag ansawdd a diogelwch gwasanaethau
- gwerthuso datblygiadau arloesol o ran trefnu a darparu gwasanaethau
- cyflawni synthesis a meta-ddadansoddiad o dystiolaeth mewn meysydd pwnc perthnasol
- gwerthuso modelau iechyd a gofal cymdeithasol integredig
- archwilio materion sy’n ymwneud ag ymddygiadau iechyd
- archwilio materion sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd
- archwilio materion sy’n ymwneud ag annhegwch ac anghydraddoldeb ym maes iechyd a gofal.
Sylwch, fodd bynnag, na fydd y gangen hon yn ariannu:
- ymchwil labordy neu ymchwil gwyddoniaeth sylfaenol, gan gynnwys ymchwil sy’n defnyddio anifeiliaid
- ceisiadau sy’n gweddu’n well i’r gangen ymchwil trosi a chlinigol
- sefydlu neu gynnal unedau ymchwil
- ceisiadau sy’n ymwneud â datblygu gwasanaethau yn unig
- ceisiadau sydd wedi’u cyfyngu i archwilio, arolygu neu asesu anghenion.
Er mwyn osgoi amheuaeth, er y bydd y cynllun yn ariannu ymchwil sydd wedi’i hanelu at werthuso effeithiolrwydd ymyriad gwasanaeth, ni fydd yn ariannu’r gost o ddarparu’r gwasanaeth na’r ymyriad ei hun.
Cyfeiriwch at ganllawiau ymchwil gofal cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer diffiniad o ymchwil gofal cymdeithasol.
Rhaid i bob ymgeisydd ddangos yr angen am yr ymchwil arfaethedig a pha mor bwysig ydyw, a disgrifio’n glir yr effaith y mae ei ganfyddiadau yn debygol o’i chael yn y tymor byr i’r tymor canolig a’r manteision sy’n debygol i’r cyhoedd, polisi neu ymarfer.
Lle bo’n berthnasol, bydd disgwyl i ymgeiswyr ddarparu manylion ar yr effaith y gallai ymyriadau effeithiol a chanfyddiadau’r ymchwil ei chael ac i ba raddau y gellir eu hehangu.
O ran ymchwil gofal cymdeithasol yn benodol, croesewir ceisiadau gan Ymgeiswyr Arweiniol â chymwysterau addas nad ydynt wedi ymgymryd ag ymchwil ym maes gofal cymdeithasol yn flaenorol.
Cylch gwaith cyffredinol y Cynllun Ariannu Integredig
Yn ogystal â’r ystyriaethau cylch gwaith sy’n benodol i bob cangen uchod, mae rhai pwyntiau ychwanegol isod sy’n berthnasol i’r ddwy gangen.
Croesewir ceisiadau sydd wedi’u cwmpasu’n dda a fydd yn cynhyrchu canfyddiadau i lywio ceisiadau ariannu ymchwil diweddarach, yn ogystal â cheisiadau ar gyfer prosiectau a fydd yn cynhyrchu canfyddiadau ‘sy’n cael effaith’ yn eu rhinwedd eu hunain.
Fodd bynnag, dylid nodi, er bod ceisiadau i ymgymryd ag ymchwil a fydd yn llywio ceisiadau dilynol i arianwyr eraill ar gyfer astudiaethau mwy o faint a/neu ddiffiniol yn cael eu hannog, ni fyddwn yn ariannu ceisiadau sydd eisoes yn addas i’w cyflwyno i raglenni’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyfrannu atynt.
Croesewir ceisiadau gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a’r rhai nad ydynt wedi arwain ymchwil o’r blaen ond sy’n edrych i adeiladu portffolios ymchwil a chael profiad o arwain ymchwil.
O fewn paramedrau cyffredinol yr alwad, croesewir ceisiadau o wahanol hyd, maint a chost. Dylai ymgeiswyr gofio bod ceisiadau yn aml yn methu ar y cam asesu am eu bod yn cael eu hystyried yn rhy uchelgeisiol.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ystyried perthnasedd ac effaith eu gwaith ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig. Dylai’r rhai sy’n datblygu treialon fod yn ymwybodol o Fframwaith Ethnigrwydd INCLUDE – Trial Forge, a’i ystyried, er mwyn helpu i wella’r ffordd y caiff treialon eu cynnal ar gyfer grwpiau a danwasanaethir.
Caiff ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, ac yn enwedig sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau, ei annog yn gryf drwy gydol y broses ymchwil er mwyn sicrhau’r potensial mwyaf o ran cyfnewid gwybodaeth ac effaith.
Dylai ymgeiswyr ddangos sut y bydd partneriaid ymchwil cyhoeddus yn cymryd rhan yn ystod y prosiect. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl cyfranogiad priodol sydd wedi’i ddylunio’n dda gan bartneriaid ymchwil cyhoeddus yn yr ymchwil y mae’n ei gefnogi, felly cyfeiriwch at Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd mewn Ymchwil. Mae’n hanfodol dangos ar y ffurflen gais gynlluniau ar gyfer cynnwys partneriaid ymchwil cyhoeddus ar bob cam priodol o gylch bywyd y prosiect ymchwil.
Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd lunio cynllun lledaenu sy’n dangos yn glir sut y bydd negeseuon allweddol yr ymchwil yn cael eu cyfleu’n effeithiol i gynulleidfaoedd perthnasol, gan gynnwys llunwyr polisi, darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac ymchwilwyr.
Cymhwystra ar gyfer y cynllun
- Rhaid i ymgeiswyr arweiniol a chydarweiniol fod wedi’u lleoli mewn sefydliad yng Nghymru ar adeg gwneud cais (neu fod yn derbyn cynnig swydd sy’n golygu y byddant wedi’u lleoli yn y sefydliad cynnal cyn i’r prosiect ddechrau).
- Rhaid i ymgeiswyr arweiniol a chydarweiniol feddu ar PhD, MD y DU neu ddoethuriaeth broffesiynol arall yn seiliedig ar ymchwil sy’n gysylltiedig ag iechyd neu ofal (derbynnir ceisiadau gan y rhai sydd wedi cyflwyno eu traethawd ymchwil PhD, neu gyfwerth, i’w sefydliad asesu yn ddiweddar, cyn belled â bod y ddoethuriaeth yn cael ei dyfarnu cyn i’r grant ddechrau) NEU fod â hanes cyfatebol o ymchwil ar adeg gwneud cais.
- Rhaid i geisiadau gael eu cefnogi gan y sefydliad cynnal.
- Croesewir ceisiadau gan ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa (a ddiffinnir yma fel unigolion nad oes ganddynt fwy na 60 mis o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol, heb gynnwys, er enghraifft, seibiannau gyrfa, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth a salwch), a’r rhai sydd eisiau bod yn ymchwilwyr arweiniol am y tro cyntaf.
- Rhaid i geisiadau gan ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa gael cefnogaeth Prif Gyd-ymgeisydd gan uwch-ymchwilydd. Fel arall, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. (Gall ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa y mae eu ceisiadau yn llwyddiannus elwa ymhellach o aelodaeth Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.)
- Os yw’r ymgeisydd arweiniol yn ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa, rydym yn disgwyl i’r Prif Gyd-ymgeisydd ddod o’r un sefydliad oni bai bod sail resymegol gref, sy’n gysylltiedig ag arbenigedd academaidd a datblygiad yr ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa, pam nad yw hyn yn wir.
- Anogir ceisiadau ar gyfer prosiectau o wahanol hyd a gwahanol gost, ar yr amod bod achos cryf yn cael ei wneud dros werth ac ansawdd y gwaith. Y cyfnod mwyaf y gellir gwneud cais am arian ar ei gyfer yw 24 mis.
Yr arian sydd ar gael
- Mae cronfa ariannu o tua £1.95m ar gael ar gyfer yr alwad a arweinir gan ymchwil (cyfanswm o £2.7m yn flynyddol, gan gynnwys £750k ar gyfer yr alwad â ffocws). Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl ariannu tua phedwar i wyth prosiect ar draws y ddwy gangen ym mhob galwad.
- O fewn y gronfa ariannu gyffredinol, nid oes cyfyngiad ar feintiau uchaf nac isaf y dyfarniadau, er y dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o gyfanswm yr arian sydd ar gael a disgwyliadau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ynghylch nifer y prosiectau y mae’n debygol o’u hariannu.
Meini prawf asesu Cam 1
Bydd angen i bob ymgeisydd gyflwyno achos cryf dros yr angen am ei gynnig ymchwil a’i bwysigrwydd yng Ngham 1, mewn perthynas â pholisi, ymarfer ac angen cyhoeddus.
Bydd hyn yn cynnwys:
- disgrifiad clir o’r angen iechyd neu ofal y mae’n mynd i’r afael ag ef
- gosod yr ymchwil arfaethedig yn y cyd-destun polisi neu ymarfer priodol
- cyfiawnhad dros bwysigrwydd yr angen hwnnw, o ran maint y broblem a/neu’r effaith debygol ar y rhai sydd ag angen iechyd neu ofal
- dangos bwlch yn y dystiolaeth ymchwil
- dangos bod y dulliau a gynigir yn addas ar gyfer ateb y cwestiwn ymchwil.
Sylwch fod cyfranogiad cryf gan y cyhoedd wrth ddatblygu’r cais ymchwil a chyflawni’r prosiect yn cael ei ystyried yn un o’r rhagofynion o ran ariannu.
Meini prawf asesu Cam 2
Bydd angen i ymgeiswyr a wahoddir i gyflwyno cais Cam 2 nodi eu cynllun ymchwil a’u methodoleg yn fanwl. Bydd y cais yn cael ei asesu ar sail ei ansawdd gwyddonol, a bydd y Bwrdd Ariannu yn ystyried:
- A yw’r fethodoleg a’r wyddoniaeth yn gadarn
- A yw’n dangos yn glir bod y cymysgedd sgiliau, profiad, rheoli prosiectau a’r seilwaith angenrheidiol ar waith i gwblhau’r prosiect yn llwyddiannus
- A yw’r cyfraddau recriwtio amcangyfrifedig yn cael eu hesbonio’n dda a’u cyfiawnhau
- A yw goblygiadau moesegol, cyfreithiol a chymdeithasol yr ymchwil arfaethedig wedi cael eu hystyried
- A oes tystiolaeth o gyfranogiad y cyhoedd/ymarferydd wrth ddylunio a chyflwyno’r prosiect
- A yw costau’r ymchwil yn cynrychioli gwerth da am arian.
Sylwch fod y meini prawf uchod yn ganllaw ar gyfer asesu, ac ni fydd y drafodaeth wedi’i chyfyngu i’r meysydd hyn.
Proses asesu
Mae dwy gangen y Cynllun Ariannu Integredig yn defnyddio proses ymgeisio dau gam.
- Bydd pob cais (amlinellol) Cam 1 yn destun gwiriadau cymhwystra a chystadleurwydd* sylfaenol i sicrhau bod ceisiadau o fewn cylch gwaith yr alwad a’r cynllun a’u bod yn addas i symud ymlaen i gael eu hasesu.
- Bydd ceisiadau Cam 1 yn cael eu hasesu gan banel yn cynnwys aseswyr cyhoeddus, polisi, ymarfer ac academaidd a fydd yn adolygu ceisiadau o ran angen a phwysigrwydd (yn erbyn y meini prawf a nodir yn yr adran ‘Meini prawf asesu Cam 1’ uchod).
- Bydd panel Cam 1 yn cynghori Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ba geisiadau a ddylai symud ymlaen i Gam 2. Dim ond ymgeiswyr y caiff eu cais Cam 1 ei flaenoriaethu ar sail pwysigrwydd y cwestiwn a chyda methodoleg digon cadarn a wahoddir i gyflwyno cais (llawn) Cam 2.
- Caiff cynigion Cam 2 eu gwirio ar gyfer cylch gwaith a chystadleurwydd* a bydd y rhai y tybir eu bod yn gystadleuol yn destun adolygiad gwyddonol (a chyhoeddus) ac asesiad annibynnol gan y Bwrdd Ariannu. Mae’r Bwrdd Ariannu yn gwneud argymhellion ariannu i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar sail ansawdd gwyddonol/ academaidd y cais (yn erbyn y meini prawf a nodir yn yr adran ‘Meini prawf asesu Cam 2’ uchod).
*Sylwch: Ystyr ‘Ddim yn gystadleuol’ yw nad yw cais o safon digon da neu nad yw wedi’i gwblhau’n ddigon da i fynd ymlaen i gael ei asesu ymhellach.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r ffurflen gais ar gael yn nogfennaeth y cynllun.
Mae fersiwn Word o’r ffurflen gais ar gyfer cyfeirio ati’n unig. Bwriedir iddi fod yn ganllaw yn unig i helpu i gwblhau’r ffurflen gais ar-lein. Ni chaiff fersiynau Word o ffurflenni cais wedi’u cwblhau eu derbyn.
Hysbysiad preifatrwydd
Mae Hysbysiad Preifatrwydd Grantiau Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a roddir ar y cam ymgeisio.
Cysylltu â ni
+44 (0) 2070 190 200
Caiff galwadau a negeseuon e-bost eu monitro rhwng 09:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, heb gynnwys gwyliau banc.
Cynlluniau Cyllid Integredig - Canllawiau i ymgeiswyr
Nodiadau cyfarwyddyd Cyfnod 1 (pdf)
Nodiadau cyfarwyddyd Cyfnod 2 (pdf)
Canllawiau cyllid (pdf)
Cam 2 - templed ffurflen gais (docx)
- Panelau'r Cynllun Cyllid Integredig
Cynllun Cyllid Integredig Galwad 1 Cam 1 Aelodau’r Panel (pdf)
Cangen 2 - Cofnodion Cyhoeddus cyfarfod panel Galwad 3 (pdf)