Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd
Mae ein fforwm sydd ar ddod yn ymwneud ag Effaith Cynnwys y Cyhoedd. Trwy sgyrsiau a sesiynau grŵp bach rhyngweithiol, byddwn yn archwilio sut mae adborth yn cael ei gasglu, ei rannu a'i droi'n newid go iawn.
Bydd y fforwm yn edrych ar sut mae adborth yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio, gan wneud yn siŵr y sylwir ar gyfraniadau pobl a’u bod yn arwain at newidiadau go iawn.
Mewn grwpiau bach, bydd pobl yn dod o hyd i gwestiynau syml a ffyrdd o fesur sut mae cynnwys y cyhoedd a chyllid yn helpu. Bydd y trafodaethau yn helpu i benderfynu:
- Pwy ddylai roi adborth
- Pa wybodaeth ddylai gael ei rhannu
- Sut y gellir rhannu adborth gyda mwy o bobl
Beth i'w ddisgwyl:
- Diweddariadau ar y Cynllun Gweithredu Darganfod Eich Rôl a phrosiectau allweddol eraill
- Trafodaethau rhyngweithiol i wella adborth ac adrodd
- Cyfleoedd i rannu eich profiadau a llunio gweithgareddau yn y dyfodol
-
Online