Professor Barbara Ryan

Trawsnewid gofal llygaid yng Nghymru: Yr Athro Barbara Ryan ar gydweithrediadau ymchwil ac effaith

30 Hydref

Yr Athro Barbara Ryan MBE yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau Golwg, canolfan a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyda'r nod o wella gofal i unigolion sydd â phroblemau golwg. Gyda dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad mewn ymarfer gofal llygaid, ymchwil, addysg a pholisi, mae hi wedi gweithio ar draws prifysgolion, ysbytai, practisau optometreg, y sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru. 

Rhoddodd yr Athro Ryan drafodaeth dull TED yn ystod degfed gynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan fyfyrio ar ei gyrfa ymchwil.

Wrth weithio i Lywodraeth Cymru, sylwodd yr Athro Ryan fod problem critigol yn y rhestrau aros cynyddol mewn gofal llygaid yn achosi nid yn unig anghyfleustra, ond colli golwg parhaol i rai cleifion. Felly, ceisiodd datrysiadau a gweithiodd gydag ymchwilwyr, ymarferwyr a byrddau iechyd i archwilio dulliau arloesol. Dechreuodd yr Athro Ryan ddod â thimau amlddisgyblaethol at ei gilydd, gan gynnwys meddygon teulu, fferyllwyr, offthalmolegwyr, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol ac economegwyr iechyd i weithio ar y problemau.  Gweithiodd y timau hyn ar y prosiect a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. a oedd wedi'i gynllunio i benderfynu a ddylai rhai gwasanaethau gofal llygaid symud o ysbytai i'r gymuned, yn enwedig ar gyfer cleifion glawcoma a retina meddygol. Roedd y canlyniadau'n drawiadol gydag amseroedd aros yn gostwng o flynyddoedd i wythnosau ac roedd pobl yn gwerthfawrogi cyfleustra gofal lleol. 

Rhannwyd yr ymdrechion hyn a dylanwadwyd ar bolisi'r llywodraeth yng Nghymru.  Mae'r contract ar gyfer optometryddion yng Nghymru bellach yn cynnwys monitro a rheoli glawcoma a gofal retina meddygol ledled y wlad. 

Pwysleisiodd yr Athro Ryan fod effaith ymchwil yn gofyn am fwy na data yn unig, mae'n gofyn am berthynas â'r cyhoedd, rhanddeiliaid a thimau medrus. 

Cynghorodd yr Athro Ryan ymchwilwyr i roi pobl yn gyntaf trwy gynnwys cleifion, y cyhoedd ac ymarferwyr. Tynnodd sylw at werth gweithio gyda thimau amrywiol, aros yn ddyfalbarhaus trwy rwystrau, a manteisio ar gyfleoedd arweinyddiaeth hyd yn oed os ydych chi'n amau ​​​​​​eich hun. Dywedodd hi: 

"Mae'n heriol gwneud newid.  Mae'n heriol cael effaith.  Mae angen ychydig o angerdd arnoch i'ch cael chi dros y rhwystrau hynny a chyrraedd y llinell derfyn."

Darganfyddwch fwy am yr Athro Ryan drwy wylio ei thrafodaeth dull TED yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025.