Dathlu degawd o ymchwil o Gymru wrth lansio astudiaeth arloesol i ddementia
16 Hydref
Bydd Cymru'n chwarae rhan allweddol mewn astudiaeth dementia newydd arloesol ledled y DU sy'n agor yr wythnos hon, wrth i ni ddathlu 10 mlynedd o effaith ymchwil yn ein cynhadledd flynyddol heddiw (dydd Iau 16 Hydref).
Mae'r astudiaeth SANDBOX yn cyfuno biofarcwyr gwaed gyda phrofion genetig a deallusrwydd artiffisial i gyflymu diagnosis o ddementia a lleihau amseroedd aros. Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw'r safle cyntaf i agor ar gyfer recriwtio a bydd byrddau iechyd eraill yn dilyn.
Bydd yr astudiaeth yn cael ei chyflwyno ar draws byrddau iechyd yng Nghymru yn ogystal â safleoedd yn Lloegr a'r Alban, gan ei gwneud yn un o'r rhaglenni ymchwil dementia mwyaf cynhwysfawr yn y DU.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cefnogi'r astudiaeth, yn cynnal ei degfed cynhadledd flynyddol sy'n dathlu degawd o effaith mewn ymchwil. Eleni yn unig mae Canolfan Niwrotherapïau Datblygedig Caerdydd yn chwarae rhan flaenllaw mewn treial therapi genynnau arloesol, AMT-130, y dangoswyd ei fod yn arafu cynnydd clefyd Huntington, tra bod cyffur o'r radd flaenaf wedi'i drwyddedu i'w ddefnyddio yn y DU a'r Unol Daleithiau o ganlyniad i dreial clinigol a arweinir yng Nghymru, FAKTION, sy'n helpu i ymestyn bywydau pobl sy'n byw gyda chanser y fron terfynol.
Yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf mae bron i 300,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Cafodd Kathryn White, 74 oed, postfeistres wedi ymddeol o Bontllanfraith, ddiagnosis o glefyd Alzheimer ym mis Gorffennaf 2024. Dywedodd gŵr Kathryn, Michael: "Fe wnaethon ni ddechrau poeni pan aeth Kathryn ar goll wrth yrru i gwrdd â fi a ffrind yng Nghaerdydd, taith mae hi wedi'i gwneud sawl gwaith. Digwyddodd yr un peth sawl gwaith eto, felly aethon ni at y meddyg. Fe gafodd Kathryn rai profion gwybyddol, a ddaeth yn ôl yn ymylol, ond roedd gennym ni deimlad bod rhywbeth yn digwydd. Dros y ddwy flynedd a hanner nesaf cafodd Kathryn gyfres gyfan o brofion, mewn ysbytai ledled De Cymru, ond daeth pob un ohonyn nhw nôl yn normal. O'r diwedd fe wnaethon ni gwrdd â Dr Ivenso a atgyfeiriodd Kathryn am bigiad meingefnol ac fe ddaeth hwnnw nôl yn bositif."
Er bod pigiad meingefnol yn ffordd effeithiol o gynorthwyo diagnosis cywir o glefyd Alzheimer, trwy ddadansoddi hylif y meingefn, mae profion biofarcwyr gwaed yn weithdrefn lai ymwthiol, a allai fod wedi galluogi Kathryn i gael diagnosis yn gynt.
Ychwanegodd Michael, "Mae'r ddau ohonom wedi ymddeol ac roedden ni'n gallu cyrraedd yr apwyntiadau, ond roedd yn dal yn ein llethu. Y peth gwaethaf oedd, hyd nes bod gennych ddiagnosis, allwch chi ddim cael meddyginiaeth. O ran hynny, roedd cael y diagnosis yn rhyddhad. Nawr mae Kathryn ar feddyginiaeth i arafu'r gwaethygiad. Mae hi'n cael trafferth gyda'i chof tymor byr, ond mae'n mwynhau gweld ffrindiau a threulio amser gyda'n plant, wyrion a gor-wyrion."
Mae Kathryn a Michael wedi cymryd rhan mewn nifer o astudiaethau ers ei diagnosis. Ychwanegodd Michael, "Os ydych chi'n cael diagnosis cyflym, rydych chi'n dod o hyd i'r broblem yn gynt. Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil, y mwyaf tebygol ydych chi o ddod o hyd i'r atebion. Bydd mwy o driniaethau yn ymddangos ac yn gwella o ganlyniad i ymchwil, felly os oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud, byddwn ni yn ei wneud. Gallai helpu pobl eraill."
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae 16,589 o gyfranogwyr yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel, gan gefnogi 204 o dreialon masnachol gweithredol a 605 o astudiaethau anfasnachol i ymchwil sy'n newid bywydau ar draws meysydd gan gynnwys canser, iechyd meddwl a chlefydau prin.
Mae ein canolfannau wedi’u hariannu wedi sicrhau 156 o grantiau llwyddiannus gwerth £34.5 miliwn, wedi creu 190 o swyddi newydd ac wedi cyfrannu at 845 o gyhoeddiadau ymchwil. Trwy ein cynlluniau wedi’u hariannu, rydym wedi dyfarnu dros £7.6 miliwn ar draws 61 o ddyfarniadau ac 11 rhaglen - sy'n dangos yr ymrwymiad parhaus i ymchwil sy'n gwella bywydau ac sy’n cryfhau'r system iechyd a gofal yng Nghymru. Mae'r cyflawniadau hyn ynghyd ag eraill i'w gweld yn adroddiad blynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024–25.
Ychwanegodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru: "Mae ansawdd ac ehangder y gweithgarwch ymchwil a datblygu dros y deng mlynedd diwethaf wedi bod yn ysbrydoledig, a thrwy astudiaethau fel SANDBOX, FAKTION ac AMT-130, rydym yn dangos bod Cymru'n chwarae rhan fawr wrth helpu i ddarganfod diagnosteg, therapïau a thriniaethau’r dyfodol, yn ogystal â'r rôl y mae ymchwil a thystiolaeth yn ei chwarae wrth helpu i lunio polisi yn ddomestig, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
"Dros y deng mlynedd nesaf byddwn yn datblygu’r gwaddol hwn i gryfhau ymchwil iechyd a gofal ymhellach yng Nghymru fel rhan bwysig ac angenrheidiol o'n hymdrechion i sicrhau Cymru iachach a thecach."
Dan arweinyddiaeth newyddiadurwr ITV Cymru Wales, Andrea Byrne, bydd rhaglen y gynhadledd yn ymdrin â phynciau fel effaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, rhan deallusrwydd artiffisial mewn ymchwil a phwysigrwydd cynhwysiant wrth ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd a thangynrychiolaeth – a bydd hefyd yn canolbwyntio ar ddyfodol ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
I weld y rhaglen lawn, ewch i dudalen y gynhadledd.
Cofrestrwch i dderbyn y bwletin i glywed y newyddion diweddaraf ac enillwyr dyfarniadau ar y diwrnod.