Dathlu ymchwil sy'n hyrwyddo iechyd dynion yng Nghymru
6 Tachwedd
Yn ystod Tashwedd eleni, rydym yn dathlu'r bobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil canser a'r timau ymroddedig sy'n gweithio i wella canlyniadau, datblygu triniaethau gwell a sicrhau bod dynion ledled Cymru yn cael mynediad at y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Rydym yn falch o fod yn ariannu un o'r astudiaethau llawfeddygol mwyaf yn y byd i ganser y brostad, gyda'r nod o sicrhau bod cleifion risg uchel yn derbyn y safon uchaf o ofal.
Canser y brostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yng Nghymru o hyd, gan gyfrif am fwy na chwarter o'r holl ddiagnosis canser gwrywaidd newydd. Bydd un o bob wyth dyn yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser y brostad yn ystod eu hoes.
Mae'r astudiaeth ELIPSE (sef Gwerthuso Lymffadenectomi mewn Llawfeddygaeth Canser y Brostad Risg Uchel) yn cymharu dau fath o lawdriniaeth ar gyfer dynion sydd â chanser y brostad nad yw wedi lledaenu eto, ond sydd mewn perygl o wneud hynny: tynnu'r brostad a'r nodau lymff, yn erbyn tynnu'r brostad yn unig. Bydd y canlyniadau yn darparu tystiolaeth hanfodol i glinigwyr a chleifion i lywio penderfyniadau triniaeth.
Cafodd Kevin McDonald, o Bont-y-clun, ddiagnosis o ganser y brostad yn 70 oed a dewisodd gymryd rhan yn yr Astudiaeth ELIPSE. Cafodd lawdriniaeth yn gynharach eleni ac mae'n parhau i gyfrannu at holiaduron dilynol, gan helpu ymchwilwyr i gasglu tystiolaeth hanfodol i wella gofal.
Dywedodd Kevin: "Yn fy marn i, nid oedd unrhyw niwed wedi'i wneud bod yn rhan o'r astudiaeth ymchwil, os oedd yn helpu eraill. Gallai fod o fudd i'r proffesiwn meddygol ac i gleifion eraill yn y dyfodol."
Cafodd yr awdur Cymreig adnabyddus Ifor Thomas ddiagnosis o ganser y brostad bron i ugain mlynedd yn ôl, a chymerodd ran mewn treial clinigol mawr yn y DU ym Mryste, gan gymharu canlyniadau ar gyfer llawdriniaeth, radiotherapi a monitro gweithredol.
Dywedodd Ifor: "Rwy'n gryf o'r gred bod y grŵp ymchwil yr ymunais ag ef, dan arweiniad yr Athro Jenny Donovan a'r Athro Freddie Hamdy, wedi achub fy mywyd. Rwy'n brawf byw bod ymchwil yn gweithio."
Mae Ifor wedi cyhoeddi wyth llyfr, ac mae ei gasgliad "Body Beautiful" yn adrodd ei daith bersonol trwy ddiagnosis a thriniaeth. Yn ddiweddar, rhannodd ei farddoniaeth yn ystod degfed gynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a'r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.