Plant mewn cartrefi lle mae camddefnyddio sylweddau, trais domestig neu broblemau iechyd meddwl: Pwy sydd mewn perygl o fynd i mewn i ofal?

Crynodeb diwedd y prosiect

Prif Negeseuon

Mae problemau rhieni wedi’u cysylltu’n flaenorol â phlant yn mynd i mewn i ofal, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, anableddau dysgu, a mathau o niwrowahaniaeth. Fodd bynnag, mae llawer o bethau am y berthynas rhwng y materion hyn a mynediad i ofal plant, nad ydynt yn hysbys.

Defnyddiodd y prosiect hwn ddata anhysbys a gasglwyd yn rheolaidd i edrych ar y berthynas rhwng problemau rhieni a phlant yn mynd i mewn i ofal. Gwnaeth hyn drwy edrych ar aelwydydd plant 3 i 17 oed a aeth i ofal yng Nghymru rhwng 2008 a 2020, a'u cymharu ag aelwydydd eraill yn y boblogaeth lle nad oedd plentyn wedi mynd i mewn i ofal.

Defnyddiodd y prosiect ddata gwasanaethau iechyd i nodi ffactorau risg gwahanol yn yr oedolion yn yr aelwydydd hynny. Edrychodd ar a allai'r ffactorau hyn ragweld y tebygolrwydd y bydd plentyn yn mynd i ofal, a'r amgylchiadau lle'r oedd yn fwy tebygol o gael effaith. Canfu'r canfyddiadau pwysig canlynol:  

  • Roedd y rhan fwyaf o’r ffactorau risg rhieni yr edrychwyd arnynt yn llawer mwy cyffredin yn yr aelwydydd y daeth plentyn i ofal ohonynt, er bod rhai ffactorau risg yn dylanwadu’n fwy nag eraill ar y tebygolrwydd y byddai aelwyd yn cynnwys plentyn a oedd yn mynd i mewn i ofal.  
  • Mewn aelwydydd un oedolyn, roedd y rhan fwyaf o ffactorau risg yn cael mwy o effaith ar y tebygolrwydd o ofal pan oeddent yn digwydd mewn cartrefi lle mai menyw oedd y penteulu yn hytrach nag aelwydydd lle mai dyn oedd y penteulu. Fodd bynnag, cafodd gorbryder fwy o effaith ar aelwydydd lle mai dyn oedd y penteulu. 
  • Mae plant o gartrefi mewn ardaloedd o amddifadedd uchel yn fwy tebygol o fynd i ofal na’r rhai mewn ardaloedd o amddifadedd isel, fodd bynnag mae’n ymddangos bod y ffactorau risg yn cael yr un effaith ar y tebygolrwydd o ofal pan fyddant yn digwydd mewn ardaloedd o amddifadedd uchel ac isel.  
  • Mae’r effaith y mae ffactorau risg rhieni yn ei chael ar blentyn sy’n mynd i ofal yn amrywio yn ôl oedran ac ethnigrwydd y plentyn. Mewn cartrefi tebyg (gyda'r un problemau rhieni), mae plant o leiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fynd i ofal na phlant gwyn. 
  • Mae'n ymddangos bod y cynnydd mewn plant aeth i ofal rhwng 2008 a 2020 o leiaf yn gysylltiedig yn rhannol â chynnydd mewn iselder rhieni.
Wedi'i gwblhau
Research lead
Dr Nell Warner
Swm
£247,135
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Hydref 2020
Dyddiad cau
31 Ionawr 2024
Gwobr
Research Funding Scheme: Social Care Grant
Cyfeirnod y Prosiect
SCG-19-1667
UKCRC Research Activity
Aetiology
Research activity sub-code
Psychological, social and economic factors