Yr Athro Simon Murphy
Cyfarwyddwr
Cynlluniau ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Gwobr: Dyfarniad Ysgoloriaeth PhD Iechyd
Teitl y prosiect: Development of Methodological Guidance for the Coproduction of Health Interventions: Targeting wellbeing in secondary schools to prevent mental health issues
Mae diddordebau ymchwil Simon yn canolbwyntio ar ddau brif faes. Mae’r cyntaf yn canolbwyntio ar ddeall ac esbonio iechyd ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd pobl ifanc o fewn eu cyd-destun cymdeithasol, gan dynnu ar fframweithiau cymdeithasol-ecolegol. Mae’r gwaith hwn yn llywio datblygu a threialu ymyriadau cymhleth cynaliadwy i wella iechyd sy’n mynd i’r afael â dylanwadau ar ganlyniadau risg lluosog ac anghydraddoldebau iechyd. Mae’r ail yn ymwneud â gwerthuso mentrau gwella iechyd cyhoeddus cymhleth sy’n cael eu gyrru’n ddamcaniaethol, gyda diddordeb arbennig ynghylch y prosesau cymdeithasol a’r dylanwadau cyd-destunol sy’n effeithio ar weithrediad ac effeithiolrwydd.
Mae Simon wedi cynnal nifer fawr o hap-dreialon rheoledig pragmatig o ymyriadau cymhleth gan ddefnyddio methodolegau cymysg, yn cynnwys nifer o dreialon polisi cenedlaethol. Mae’n arbennig o awyddus i ddatblygu ansawdd ymchwil gwella iechyd cyhoeddus ac mae’n Brif Ymchwilydd Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cysylltu cymunedau ysgol, polisi, ymarfer ac ymchwilwyr i ddatblygu a chynnal ymchwil gwella iechyd mewn ysgolion.