Nodi 10 blaenoriaeth ymchwil ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch iawn o rannu’r deg blaenoriaeth ymchwil sy’n ymwneud â:
mynediad at ofal a chymorth cydgysylltiedig a’r modd y cânt eu darparu i blant a phobl ifanc (11-25 oed) sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu (dim diagnosis iechyd meddwl).
Mae’r blaenoriaethau hyn yn deillio o’n prosiect blaenoriaethu ymchwil diweddaraf lle clywsom yn uniongyrchol gan bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn ogystal ag ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a thrydydd sector.
I ddechrau, cynhaliwyd arolwg ar gyfer ymarferwyr a grwpiau trafod gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal gyda chymorth CASCADE Voices from Care a’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS).
Yna, gofynnom i bobl ifanc ac ymarferwyr am eu profiadau o ofal cydgysylltiedig ar gyfer anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu a’r hyn y dylai gwaith ymchwil ymchwilio iddo o fewn y pwnc hwn, yn eu barn nhw. O’r cam hwn, nodwyd 26 o flaenoriaethau ymchwil, a lluniwyd rhestr fer o 16 wedyn drwy arolwg a grwpiau trafod pellach.
Daeth pobl ifanc ac ymarferwyr o amryw o sectorau at ei gilydd i drafod y blaenoriaethau cyn pleidleisio ar y blaenoriaethau hynny a oedd bwysicaf, yn eu barn nhw.
Dyma’r deg blaenoriaeth a ddeilliodd o’r gweithdy hwnnw:
- Nodi’n Gynnar - Sut gall gwasanaethau gydweithio i nodi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu ar gam cynnar, yn enwedig y rhai sy’n wynebu risg (er enghraifft o gael eu gwahardd o’r ysgol, camddefnyddio sylweddau, digartrefedd, camfanteisio’n rhywiol/camfanteisio’n droseddol ar blant, profiad o gyfiawnder ieuenctid) fel y gallant gael y gofal a’r cymorth i atal y risgiau hyn neu broblem iechyd meddwl rhag digwydd? A beth yw’r manteision o ran y canlyniadau i bobl ifanc a chostau a manteision yr ymyriad cynnar hwn?
- Penderfyniadau ar y cyd - Sut gall plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu gymryd mwy o ran yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt? Pa fanteision neu heriau a allai fod yn gysylltiedig â’r ffordd hon o weithio?
- Gwaith amlasiantaeth - Sut gall gwasanaethau statudol (gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, addysg) a sefydliadau trydydd sector (elusennau) weithio mewn ffordd lle maent yn ategu ei gilydd i ddarparu’r gofal a’r cymorth cywir, ar yr adeg gywir, i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu?
- Cymorth cyn diagnosis iechyd meddwl - Pa gymorth fyddai fwyaf buddiol i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu sy’n aros am ddiagnosis iechyd meddwl a/neu sy’n aros i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl?
- Sicrhau bod y person ifanc yn ganolog i’r ymarfer - Sut gall gwasanaethau gydweithio i sicrhau bod gwrando, deall anghenion person ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ac ennyn ei ymddiriedaeth, yn ganolog i ymarfer? Sut mae hyn yn effeithio ar y cymorth y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn ei gael?
- Cynllunio ar gyfer bod yn oedolyn - Sut gall gwasanaethau gydweithio i ddarparu cynllunio a chymorth di-dor i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ar gyfer eu hanghenion emosiynol ac ymddygiadol wrth iddynt bontio i fyd oedolyn?
- Anghenion cymhleth sy’n cyd-ddigwydd - Sut gall gwasanaethau gydweithio i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn well gydag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu lle mae yna anghenion cymhleth sy’n cyd-ddigwydd o amgylch anghenion dysgu ychwanegol a/neu niwrowahaniaeth?
- Dulliau sy’n cael eu llywio gan drawma - A yw gweithio mewn ffordd sy’n cael ei llywio gan drawma ar draws gwasanaethau yn helpu plant a phobl ifanc gydag anghenion emosiynol ac ymddygiad ôl heb eu diwallu? Pa wahaniaeth mae hyn yn ei wneud i’w canlyniadau?
- Rôl a chyfrifoldebau gwasanaethau gwahanol - Sut gall gwasanaethau ddeall rolau a chyfrifoldebau ei gilydd yn well (gan gynnwys y defnydd o iaith, cymhwyster ar gyfer gwasanaethau a llwybrau gwasanaeth) fel y gallant benderfynu pwy ddylai arwain a darparu gofal a chymorth mwy di-dor i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal?
- Iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio - Pa gyfleoedd sydd ar gael i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol weithio’n agosach gyda’i gilydd, a beth yw’r manteision a’r anfanteision posibl ar gyfer y gofal a’r cymorth y mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn eu cael?
Camau nesaf
Byddwn ni’n troi’r blaenoriaethau hyn yn gwestiynau ymchwil cyn eu hyrwyddo a’u rhannu â chyllidwyr ymchwil.
Yn ogystal â nodi’r deg blaenoriaeth bwysicaf, caiff yr holl ymatebion a gasglwyd o’r arolygon a’r grwpiau trafod eu rhannu â Llywodraeth Cymru er mwyn llywio polisïau ar weithio mewn ffordd integredig a datblygu Strategaeth Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru.
Diolch
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd amser i gyfrannu at y prosiect hwn. Drwy rannu eich syniadau mewn prosiectau fel yr un yma, rydych chi’n helpu i lywio ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Hoffem ddiolch yn arbennig i Grŵp Cynghori Pobl Ifanc NYAS Cymru am eu cyfranogiad drwy gydol y prosiect.