
O faterion cyfoes i ymchwil – gwirfoddoli ar Bwyllgor Moeseg Ymchwil
Mae Clare Gabriel yn gyn-newyddiadurwr gyda'r BBC, yn fam ac yn fam-gu, ac yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil, gan helpu i sicrhau bod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn ddiogel, yn deg ac yn foesegol.
Dechreuodd diddordeb Clare mewn ymchwil pan aeth ei merch hynaf yn sâl iawn a chafodd ei chludo i'r ysbyty gyda diabetes math 1 yn ddeg oed.
Fel rhiant, roedd Clare yn gwybod bryd hynny bod ymchwil yn hanfodol i wella bywyd ei merch o ran diabetes, ac mae hi wedi gweld dros y blynyddoedd fanteision ymchwil, a sut y gall newid bywyd.
Ddwy flynedd yn ôl, gwelodd Clare neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn chwilio am bobl i wirfoddoli fel aelodau Pwyllgor Moeseg Ymchwil (PMY), sy'n amddiffyn hawliau, diogelwch, urddas a lles cyfranogwyr ymchwil, a meddyliodd ei fod yn swnio'n ddiddorol.
Fel rhywun heb gefndir gwyddoniaeth neu feddygol, roedd Clare ychydig yn bryderus ar y dechrau am y broses ymgeisio, ac a fyddai hi hyd yn oed yn gallu gwneud y rôl; dywedodd hi:
"Roeddwn bach yn ofnus, rwy'n newyddiadurwr heb unrhyw gefndir meddygol, does gen i ddim TGAU gwyddoniaeth hyd yn oed. Roeddwn braidd yn bryderus pan gefais y ffurflen gais, roedd yn rhaid i mi edrych ar rai materion moesegol astudiaeth fel rhan ohoni."
Ond pan ddechreuais i, roeddwn i'n meddwl, wel mae hyn yn bethau dwi'n gwybod amdano, mae hyn yn synnwyr cyffredin, dyw hwn yn ddim byd sy'n rhy anodd i fi, dyw e ddim yn broblem. Fe wnes i gymhwyso'r synnwyr a'r wybodaeth dda sydd gen i o fy mhrofiad mewn bywyd ac roeddwn i'n meddwl, gallwn i wneud hyn."
Sylweddolodd yn gyflym nad oedd angen cefndir meddygol na gwyddoniaeth arni i fod yn aelod PMY, roedd angen iddi allu dod â'i phrofiadau bywyd a'i synnwyr cyffredin a chael yr amser i wirfoddoli.
Fel aelod o PMY, mae Clare yn ymrwymo i fynychu o leiaf chwe chyfarfod hanner diwrnod y flwyddyn drwy Zoom, lle mae hi ac aelodau eraill yn trafod ceisiadau ymchwil ac yn rhoi adborth i ymchwilwyr ar eu hastudiaethau.
Mae Clare yn mwynhau ei phrofiad fel aelod PMY. Mae hi bellach yn gadeirydd ei phwyllgor, ac yn mentora aelodau mwy newydd. Dywedodd hi:
Mae gen i gymaint o fod yn rhan o PMY, rwyf wedi cynyddu fy ngwybodaeth cymaint am yr hyn sy'n digwydd o amgylch ymchwil yn y DU, pethau na fyddwn i erioed wedi breuddwydio y byddwn i'n gwybod amdanynt."
"Dwi hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd o fod ar y PMY, ffrindiau fyddwn i'n mynd allan am goffi neu ginio gyda nhw, sy'n rhywbeth doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl ond mae'n neis iawn."
"Rwyf hefyd wedi cael llawer o foddhad personol o fod yn rhan o PMY, rwy'n cael gwefr fawr o wybod fy mod i'n helpu gwyddoniaeth i symud ymlaen, fy mod i'n helpu cenedlaethau'r dyfodol."
Mae Clare yn teimlo mai un o'r prif resymau pam fod y DU yn arweinydd mor fyd-eang mewn ymchwil yw oherwydd y cymunedau amrywiol yn y DU a bod angen adlewyrchu hyn yn y bobl sy'n gwirfoddoli i bwyllgorau PMY. Dywedodd Clare:
"Mae'n bwysig iawn bod gennym ni bobl o'r holl wahanol ddiwylliannau a grwpiau o bobl sydd yng nghymdeithas y DU i ddod ymlaen a bod ar bwyllgor moeseg. Gallant roi eu barn ar agweddau ar ofal a diogelu cleifion, oherwydd ni allwn gael un safbwynt yn unig o ran moeseg. Mae moeseg er lles cyffredinol, felly mae angen pawb arnom, ac mae gan bawb rywbeth i'w roi i bwyllgor."
Mae pwyllgorau PMY Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bob amser yn chwilio am aelodau newydd o bob cefndir a phrofiad bywyd. Os hoffech gael gwybod mwy am wirfoddoli, gallwch gysylltu â'n tîm PMY a fydd yn hapus i'ch helpu i ddarganfod mwy am yr hyn maen nhw'n ei wneud a sut y gallwch wneud cais i ymuno ag un.
Fel aelod o bwyllgor REC, byddwch yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad a chael y cyfle i wneud gwahaniaeth i'r ymchwil sy'n digwydd ledled Cymru a'r DU.