a_woman_presenting_to_a_room_of_people

O fynd heb eich clywed i fod wedi’ch grymuso: endometriosis a'r lle ar gyfer newid

19 Mawrth

Ar ei phen-blwydd yn 18 oed, cafodd Rachel Joseph anrheg anarferol.

Ymhlith y cardiau a'r anrhegion roedd llythyr gan y GIG yn cadarnhau bod ganddi endometriosis. Er gwaethaf yr enw dryslyd a'r termau meddygol cymhleth, roedd yn drobwynt cadarnhaol i Rachel.

Dywedodd: “Roedd yn brawf ysgrifenedig nad oedd yr hyn yr oeddwn i'n ei brofi i gyd yn fy mhen, nad oeddwn i’n bod yn or-ddramatig a bod yna enw i’r pethau ofnadwy yr oeddwn i'n eu profi.”

Fe ddechreuodd y foment hon ymrwymiad gydol oes i wella gofal a chydnabyddiaeth i'r rhai sydd â'r cyflwr – rhywbeth y gwnaeth Rachel ei rannu yn ei sgwrs arddull TED yn ein cynhadledd yn 2024.

Mae endometriosis yn glefyd cronig a all achosi symptomau gan gynnwys poen difrifol yn ystod y mislif, chwydd yn yr abdomen, cyfog, blinder, iselder, gorbryder ac anffrwythlondeb, ac mae'n effeithio ar un o bob 10 o fenywod a'r rhai a bennwyd yn fenywaidd pan gawsant eu geni, yn fyd-eang, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.

Mis Mawrth yw Mis Ymwybyddiaeth Endometriosis ac mae iechyd menywod yn flaenoriaeth i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru.

I Rachel, mae llais y claf yn allweddol wrth lywio ymchwil a pholisi endometriosis. Meddai: “Mae fy mhenderfyniad i sicrhau bod llais cleifion endometriosis yn cael ei glywed wedi arwain at gwblhau ymchwil a pharhau i archwilio bydoedd eiriolaeth a pholisi.”

Mae hi wedi cydweithio â'r elusen Triniaeth Deg i Fenywod Cymru a Phrifysgolion Caerdydd a Bangor i ddatblygu prosiectau sydd â’r nod o wella cyfathrebu rhwng cleifion a darparwyr gofal iechyd.

Nawr, mae Rachel yn ymgymryd â'i her fwyaf erioed efallai, gradd PhD wedi’i hariannu gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o'r enw ‘Gwerthusiad Realydd o weithredu adnoddau a gwefan endometriosis GIG sy'n canolbwyntio ar fenywod i gefnogi diagnosis mwy amserol a phenderfyniadau ar y cyd ag ymarferwyr cyffredinol’.

Nod y prosiect tair blynedd hwn yw gwella dealltwriaeth ac effeithiolrwydd Adnodd Adrodd Symptomau Endometriosis.Cymru GIG Cymru. Drwy ddadansoddi profiadau cleifion ac ymarferwyr, mae'n ceisio gwella diagnosis cynnar a’r ffordd y caiff symptomau eu rheoli.

Mae'r canlyniadau disgwyliedig yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer ymchwilydd trydydd sector, cyhoeddi erthyglau, cyflwyniadau mewn cynadleddau, ac argymhellion ar gyfer cleifion a meddygon teulu.

Dysgwch fwy am waith ysbrydoledig Rachel ym maes eiriolaeth ac ymchwil endometriosis trwy wylio ei sgwrs arddull TED yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024.