Delwedd o fyfyrwraig PhD Brittany Nocivelli

A oes gennych chi brofiad o weithio mewn cartref gofal?

Mae pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, yn enwedig y rhai â dementia a chyflyrau tebyg, yn llai tebygol o fod yn rhan o ymchwil na phoblogaethau eraill er bod ganddyn nhw, yn aml, yr anghenion gofal mwyaf a mwyaf cymhleth. Nod y prosiect hwn yw archwilio sut y gall preswylwyr cartrefi gofal, a’u gofalwyr, gael eu cynnwys yn well mewn ymchwil, a’r hyn sy’n rhwystro ac yn hwyluso eu cynnwys.

Hoffai’r fyfyrwraig PhD Brittany Nocivelli glywed eich barn ar sut y gall preswylwyr cartrefi gofal gael eu cynnwys yn well mewn ymchwil i glywed syniadau a barn ar sut i gyfathrebu’n briodol â phreswylwyr cartrefi gofal ar bob cam o’r prosiect.

Mae'n gwahodd pobl sydd â phrofiad o weithio mewn cartref gofal, yn y gorffennol neu'r presennol, neu bobl sydd â pherthnasau yn byw mewn cartref gofal i gymryd rhan mewn arolwg byr.

Os hoffech gael gwybod mwy am y prosiect ymchwil neu ofyn am gopi papur o'r arolwg, anfonwch fynegiaint o diddordeb i Brittany Nocivelli ym Mhrifysgol Caerdyd.