Merched.

“O’r mislif i’r menopos” – dweud eich dweud ynglŷn ag ymchwil iechyd atgenhedlol ar gyfer pobl ag awtistiaeth

Ydych chi’n ystyried eich hun yn awtistig, yn byw yng Nghymru a thros 16 oed?

Dyma'ch cyfle i helpu i lunio ymchwil o Brifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Wellcome ynglŷn ag awtistiaeth ac iechyd atgenhedlol trwy:

  • Roi’ch barn ar yr astudiaeth
  • Adolygu a golygu dogfennau’r astudiaeth

Pobl awtistig sy’n arwain ac yn llywodraethu’r astudiaeth ymchwil a fydd yn canolbwyntio ar iechyd atgenhedlol, gan gynnwys y mislif, beichiogrwydd, perthnasoedd a materion gynaecolegol.

Cynigir tâl o £25 yr awr am yr amser y byddwch chi’n cyfranogi, a fydd yn rhyw dair awr y mis.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch i ymgeisio, gallwch chi gysylltu â Becky Ellis trwy e-bost neu ffonio 01792 606 156.

Gallwch chi hefyd weld rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn a sut i ymgeisio ar wefan yr astudiaeth.