Pa arloesi sy’n gallu gwella amseroldeb archwiliadau a mynd i’r afael â’r ôl-groniad ym maes endosgopi ar gyfer cleifion sydd â symptomau posibl canserau’r Gastroberfedd uchaf ac isaf?
Sut allwn ni gyflymu archwiliadau ar gyfer cleifion a allai fod â symptomau canser yn y system dreulio?
Mae diagnosis o ganserau’r system dreulio’n defnyddio endosgopi, sy’n galw am roi tiwb hyblyg gyda golau a chamera ar ei flaen i mewn i’r system dreulio, naill ai trwy’r pen ôl (y rhefr), neu i lawr y gwddf i’r stumog, gan ddibynnu ar leoliad y canser. Pan ddefnyddir y camera trwy’r rhefr i edrych ar y coluddyn isaf, colonosgopi yw’r enw am hyn.
Gwnaeth y pandemig COVID-19 roi’r GIG dan bwysau difrifol, gan achosi oedi â gwneud diagnosis o ganser. I rai cleifion, gall hyn olygu canlyniadau tymor byr a hir difrifol o ran eu hiechyd a’u disgwyliad oes. Mae’r adolygiad hwn yn edrych ar dystiolaeth ar gyfer ffyrdd newydd o fynd i’r afael â’r rhestrau aros sydd wedi tyfu a sicrhau mai’r rheini â’r risg fwyaf sy’n cael eu gweld gyntaf. Nid yw’n edrych i weld a yw’r syniadau newydd hyn yn gwella deilliannau clinigol ar gyfer cleifion.
Mae’r darganfyddiadau allweddol yn awgrymu:
-
Bod prawf ‘pŵ’ newydd gwell o’r enw FIT yn gallu helpu i flaenoriaethu cleifion sydd angen mwy o brofion sy’n defnyddio colonosgopi.
-
Gallai capsiwl prawf y mae’r claf yn ei lyncu ddarparu canlyniadau sy’n ei gwneud yn llai angenrheidiol cael colonosgopi.
-
Gallai defnyddio dull o weithredu wedi’i seilio ar ffactorau risg unigolyn helpu i flaenoriaethu triniaethau ar gyfer y rheini â’r angen mwyaf.
-
Roedd rhai technegau newydd wedi’u defnyddio’n llwyddiannus mewn meddygfeydd i asesu cleifion â symptomau canser posibl. Un enghraifft yw sbwng sy’n gallu helpu i nodi canser yn y tiwb cyhyrol sy’n cysylltu’ch gwddf â’ch stumog.
Isel i gymedrol oedd ansawdd pump o’r 9 astudiaeth a adolygwyd.
Camau gweithredu a awgrymir ar gyfer y dyfodol:
-
Defnyddio mwy ar brofion FIT. Gallai sgôr isel ar gyfer y prawf hwn leihau nifer y cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio i gael rhagor o brofion. Gallai hyn helpu i leihau rhestrau aros ac arbed adnoddau GIG fel nad ydyn nhw’n cael eu gwario ar driniaethau diangen.
-
Defnyddio canlyniadau profion FIT i flaenoriaethu’r cleifion hynny â’r angen mwyaf am endosgopi i gael diagnosis brys o ganser.
-
Sicrhau bod defnyddio profion FIT at y diben hwn ar gael yn gyfartal ym mhob ardal o Gymru.
-
Safoni canllawiau ar gyfer meddygon i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu dilyn ledled Cymru.
-
Archwilio technegau newydd sy’n addas i’w defnyddio mewn meddygfeydd er mwyn cyflymu’r amser i gael diagnosis.
-
Llyfnhau’r system atgyfeirio fel bod meddygon teulu’n gallu atgyfeirio cleifion yn uniongyrchol am archwiliadau arbenigol a chael gwared ag unrhyw gamau interim.
RR00003