Pa ddatblygiadau arloesol sy’n gallu mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n dod i ran menywod a merched oherwydd y pandemig COVID-19 ar draws gwahanol feysydd bywyd/ parthau: gwaith, iechyd, safonau byw, diogelwch personol, cyfranogiad ac addysg?

A oes ffyrdd newydd o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sylfaenol, cynyddol a brofir gan fenywod a merched a amlygwyd yn sgil COVID-19?

Ymchwiliodd yr adolygiad hwn, y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano, i dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd ymyriadau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau ar draws y 6 *maes canlynol:

  • Gwaith
  • Iechyd
  • Safonau byw
  • Diogelwch personol
  • Cyfranogiad
  • Addysg

* Defnyddir y meysydd hyn (neu feysydd bywyd) gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, Lloegr a'r Alban.

Yn 2020, priodolodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, "effeithiau economaidd, iechyd a chymdeithasol gwahaniaethol a amlygodd anghydraddoldebau rhwng y rhywiau" i bandemig COVID-19.

Er bod fwy o farwolaethau o COVID-19 ymhlith dynion, mae'r pandemig yn cael mwy o effaith ar iechyd a llesiant menywod a merched ifanc oherwydd ffactorau megis eu swyddogaethau gofalu, mynediad i swyddi ac addysg a cham-drin corfforol. Effeithir ymhellach ar fenywod a merched o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Nododd y broses adolygu 21 o astudiaethau cyhoeddedig: 7 adolygiad, 6 sylwebaeth ac 8 astudiaeth sylfaenol. Cafwyd hyd i 14 erthygl arall mewn llenyddiaeth 'lwyd' heb eu cyhoeddi.

Roedd pob un o'r 21 astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2020-2021, o wledydd ar draws y byd a chyfeiriodd llawer at glefydau pandemig blaenorol o droad y ganrif hon, cyn cyfnod COVID-19.

Roedd tystiolaeth o ymyriadau ac arloesedd yn dameidiog. Roedd ambell dystiolaeth yn cefnogi ymyriadau mewn gwaith, iechyd a safonau byw. Fodd bynnag, roedd tystiolaeth gyfyngedig ar gael ar ddiogelwch personol, cyfranogiad ac addysg.

Gall y dystiolaeth a gafwyd gyfrannu at benderfyniadau polisi yn y meysydd hyn.

Mae'r adolygiad yn cynnwys dadansoddiad ar ffurf tabl o'r holl bapurau ymchwil a llenyddiaeth lwyd.

Yn gyffredinol, roedd y dystiolaeth yn cael ei hystyried yn 'isel', oherwydd dyluniadau’r astudiaeth, ond roedd rhywfaint o ddata defnyddiol, perthnasol, gan gynnwys diogelu a chefnogi gyrfa ac ar gyfer ymyriadau diogelwch personol. Efallai nad yw arloesiadau COVID-19 eraill sy'n effeithio ar anghydraddoldebau menywod a merched wedi'u gwerthuso neu efallai nad yw'r llenyddiaeth wedi'i chyhoeddi.

Mae angen ymchwil bellach, yn enwedig ymchwil sylfaenol, i ymdrin â'r cwestiwn hwn.

Yna gellir mapio'r canlyniadau i feysydd bywyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a chyfrannu at benderfyniadau polisi yn y dyfodol.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00027