Pa ddatblygiadau arloesol sy’n helpu i ddenu, recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol o fewn cyd-destun y DU?
Pa ddatblygiadau arloesol sy’n helpu i ddenu, recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol o fewn cyd-destun y DU?
Mae’r sector gofal cymdeithasol wedi dioddef o brinder staff ac wedi bod dan bwysau am sawl blwyddyn nawr. Mae’r pandemig COVID a’r cyfyngiadau ar recriwtio o dramor wedi gwaethygu’r sefyllfa’n ddiweddar. Nod yr ymchwil hon yw archwilio ffyrdd newydd i ddenu, recriwtio a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol yn y DU ac i ddeall pa ffactorau sy’n effeithio ar drosiant.
Astudiwyd erthyglau o 2001 – 2021 ynglŷn â gweithwyr cymdeithasol a’r gweithlu gofal cymdeithasol. Dyma oedd y syniadau allweddol ar gyfer recriwtio a chadw staff.
Gweithwyr Cymdeithasol:
- Cyfleoedd i gael lleoliadau gwaith cyn cyflogaeth
- Recriwtio graddedigion ar raglenni carlam
- Prentisiaethau
Gweithwyr Gofal Cymdeithasol:
- Pan benodwyd gweithwyr gofal i fod yn hyrwyddwyr, cafwyd effaith bositif ar yr hyrwyddwyr eu hunain ac o ran denu a chadw staff newydd
- Hyfforddiant cyn cyflogi i helpu i feithrin sgiliau a hyder
- Ymgyrchoedd recriwtio cenedlaethol
- Recriwtio staff ar sail eu gwerthoedd a’u hymddygiadau yn hytrach nag ar eu cymwysterau a’u profiad yn unig
Roedd telerau ac amodau gwael, tâl isel, oriau gweithio anghymdeithasol a diffyg profiad y cyflogeion a’r rheolwyr oll yn ei gwneud hi’n anodd cadw staff gofal cymdeithasol mewn swyddi. Roedd llwythi gwaith hynod ingol yn ei gwneud hi’n anodd cadw gweithwyr cymdeithasol.
Roedd tâl a bonysau, amodau gweithio da a chydnabyddiaeth o gyflawniadau oll yn annog staff i aros.
Er y rhoddwyd cynnig ar lawer o syniadau newydd yn y maes hwn, mae’r dystiolaeth ynglŷn â’r rheini sydd wedi bod yn llwyddiannus yn aml yn wael. Daw’r canlyniadau hefyd yn bennaf o amser cyn BREXIT a COVID, a allai effeithio ar eu perthnasedd i’r sefyllfa sydd ohoni.
Mae angen i ni gynllunio sut i werthuso syniadau newydd o’r cychwyn cyntaf fel ein bod yn gallu dewis syniadau llwyddiannus yn hyderus. Mae angen ymchwil bellach fel bod modd gwneud hyn.
Mae nifer o’r syniadau a nodir uchod yn addawol a bydd Gofal Cymdeithasol Cymru, sydd wrthi ar hyn o bryd yn llunio fframwaith gwaith cymdeithasol newydd i Gymru, yn ymchwilio ymhellach i’r syniadau hyn.
Mae angen ymgyrchoedd i hybu gwaith gofal i fynd i’r afael â safbwyntiau negyddol a statws isel y gwaith hwn.
Darllenwch yr adroddiad llawn ac edrychwch ar y wybodaeth ychwanegol.
RR00026