Partneriaeth Ymchwil Atal y DU (UKPRP)
Menter £50m gyffrous ar draws arianwyr ydy Partneriaeth Ymchwil Atal y DU (UKPRP), yn canolbwyntio ar wella iechyd y boblogaeth, a lleihau anghydraddoldebau iechyd, trwy waith sylfaenol atal clefydau anhrosglwyddadwy. Mae’n cwmpasu iechyd corfforol yn ogystal â llesiant ac iechyd meddwl yn y DU.
Dylai’r ymchwil fynd i’r afael â’r ffactorau i fyny’r gadwyn sy’n gallu achosi clefydau anhrosglwyddadwy a chael ei chynhyrchu ar y cyd â defnyddwyr (e.e. llunwyr polisi, ymarferwyr, darparwyr iechyd, y trydydd sector, y cyhoedd ac ati).
Mae’r ffactorau i fyny’r gadwyn sy’n gallu achosi clefydau anhrosglwyddadwy yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, yr amgylchedd adeiledig a naturiol; cyflogaeth, addysg, lles, trafnidiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol a systemau cyfathrebu; a pholisïau llywodraeth leol a chanolog a mentrau masnachol.
Dyma partneriaid ariannu UKPRP:
- Sefydliad Prydeinig y Galon
- Ymchwil Canser y DU
- Swyddfa’r Prif Wyddonwyr (Cyfarwyddiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth yr Alban)
- Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llywodraeth Cymru)
- Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
- Y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol
- Y Cyngor Ymchwil Feddygol
- Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol
- Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd
- Yr Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus (Gogledd Iwerddon)
- Y Sefydliad Iechyd
- Wellcome
Bydd y Cyngor Ymchwil Feddygol yn gweinyddu’r alwad am gynigion ar ran y partneriaid ariannu.
Mae rhagor o wybodaeth am alwadau ariannu a sut i ymgeisio ar gael ar wefan y Cyngor Ymchwil Feddygol.