Nurse taking the blood pressure of woman

Ymchwil sy’n digwydd yng Nghymru

Yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydym yn falch o ehangder yr ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy'n digwydd mewn meddygfeydd, ysbytai, cartrefi gofal, yn y gymuned a lleoliadau eraill ledled Cymru. Gellir gweld yr astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel sy'n newid bywyd ac sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru ar wefan Bod yn Rhan o Ymchwil. Mae mwy o wybodaeth am y gweithgareddau ymchwil sy'n digwydd yng Nghymru i'w gweld yn y dolenni isod.

 

Be part of research logoBod yn Rhan o Ymchwil

Mae Bod yn Rhan o Ymchwil yn wasanaeth ar-lein sy'n rhoi cyfle i bawb ddeall beth yw ymchwil a beth allai olygu i chi gymryd rhan, yn ogystal â dangos pa ymchwil sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru a ledled y DU. Mae Bod yn Rhan o Ymchwil yn cadw gwybodaeth am yr hyn a alwn yn ‘ymchwil portffolio’ (ymchwil gystadleuol a ariennir yn allanol). I ddarganfod mwy am ymchwil sy'n digwydd yng Nghymru, ewch i wefan Bod yn Rhan o Ymchwil.

Biobanc

Gellir diffinio Biobanc fel math o ystorfa bio sy'n storio samplau biolegol (dynol fel arfer) i'w defnyddio mewn ymchwil. Mae biobanc wedi dod yn adnodd pwysig mewn ymchwil feddygol, yn enwedig o ran cefnogi ymchwil sy'n ymwneud â genomeg a meddygaeth fanwl. Mae biobanc yn rhoi mynediad i ymchwilwyr i ddata sy'n cynrychioli nifer fawr o bobl. Yn aml, gall ymchwilwyr lluosog ddefnyddio samplau mewn biobanciau a'r data sy'n deillio o'r samplau hynny ar gyfer ystod o astudiaethau a dibenion ymchwil.

Astudiaethau cronfa ddata ymchwil

Systemau trefnus yw Cofrestrfeydd Data Ymchwil sy'n casglu data unffurf (clinigol ac eraill) i werthuso canlyniadau penodedig ar gyfer poblogaeth a ddiffinnir gan glefyd, cyflwr neu amlygiad penodol, ac sy'n gwasanaethu un neu fwy o bwrpasau gwyddonol, clinigol neu bolisi a bennwyd ymlaen llaw.