Pecyn cymorth newydd i gefnogi ymchwil a gynhelir ar draws ffiniau yn y DU
22 Hydref
Mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA), mewn cydweithrediad â NHS Research Scotland, Health and Social Care (HSC) Northern Ireland ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi lansio pecyn cymorth newydd a fydd yn ei gwneud hi’n haws sefydlu ymchwil ledled y DU.
Mae’r pecyn cymorth ‘cynnal ymchwil ar draws ffiniau’ wedi’i gynllunio i gefnogi ymchwilwyr sy’n cynllunio, yn sefydlu ac yn cynnal ymchwil mewn mwy nag un wlad yn y DU.
Er bod prosesau cymeradwyo a sefydlu ymchwil ar draws gwledydd y DU yn debyg mewn rhai ffyrdd, mae’r pecyn cymorth yn darparu gwybodaeth am y prif wahaniaethau fel bod ymchwilwyr a noddwyr yn glir ynghylch yr hyn y mae angen iddynt ei wneud.
Nod y pecyn cymorth yw helpu i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i sefydlu ymchwil yn y DU. Dylai ymchwilwyr a noddwyr ddefnyddio’r pecyn cymorth wrth fynd ati i gynllunio.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- prosesau cymeradwyo yn y GIG a HSC
- ymchwil ymwthiol sy’n cynnwys oedolion heb alluedd
- dyfeisiau meddygol cyffredinol a dyfeisiau meddygol in-vitro
- cael mynediad at ddata adnabyddadwy heb gydsyniad
- darparu’r pecyn gwybodaeth leol i sefydliadau a allai gyfranogi
- trefniadau contractio
Dywedodd Matthew Sanderson, Arbenigwr Rheoleiddio Ymchwil yn HRA: “Mae rhai pethau sy’n debyg yn y ffordd y mae’r pedair gwlad yn cymeradwyo ymchwil, ond mae’n bwysig iawn bod noddwyr ac ymchwilwyr yn ymwybodol o’r prif wahaniaethau yn y broses cymeradwyo a sefydlu yng ngwledydd y DU. Mae’r pecyn cymorth yn helpu i wneud hyn yn gliriach a bydd yn helpu ymchwilwyr i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau.
“Rydym yn argymell eich bod chi’n defnyddio’r pecyn cymorth hwn yn ystod y camau cynllunio ac ymgeisio ond ewch yn ôl ato os byddwch chi’n ystyried gwneud newidiadau i’ch astudiaeth neu i sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth ddiweddaraf wrth gynnal eich ymchwil mewn mwy nag un wlad yn y DU.
Wrth i ganllawiau newid, bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu gofynion ym mhob un o’r pedair gwlad.
Gellir dod o hyd i’r pecyn cymorth ar wefan NHS Research Scotland.