Safonau'r DU ar gyfer logo cynnwys y cyhoedd

Pecyn hyfforddiant cynnwys y cyhoedd newydd ar-lein nawr ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg

6 Ebrill

Y tu cefn i’r academyddion a’r gwyddonwyr a darparwyr gofal, ceir llu o bobl sy’n helpu ag ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cynnwys pobl mewn ymchwil yn arwain at well iechyd a gofal cymdeithasol i bawb.

Dylai pob ymchwil gefnogi cynnwys y cyhoedd ac mae pecyn hyfforddiant ar-lein wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi’i seilio ar waith Grŵp Partneriaeth Safonau’r DU.

Mae’r pecyn ar-lein yn darparu popeth sydd angen ichi ei wybod am Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, gan roi fframwaith clir i alluogi cynnwys y cyhoedd yn dda mewn ymchwil.

Meddai’r Rheolwr Cynnwys y Cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Rebecca Burns, fu’n gweithio ochr yn ochr â’r tîm hyfforddi yng Nghanolfan Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ddatblygu’r pecyn: “Trwy greu pecyn ar-lein, mae’n golygu bod gennon ni fwy o gyfleoedd i hyfforddi mwy o bobl o ledled Cymru. Gallwch chi gwblhau’r hyfforddiant ar eich pen eich hun neu gydag eraill fel rhan o grŵp, a dim ond rhyw awr mae’n ei gymryd.

“Bydd y pecyn newydd yma’n cynnal y safonau uchel wrth gynnwys y cyhoedd rydyn ni’n ymfalchïo ynddyn nhw yma yng Nghymru.”

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys fideo a gweithlyfr a gellir ei ddilyn yn y Gymraeg neu’r Saesneg.