Penodi Cyfarwyddwr Cyfadran Newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
22 Mai
Penodwyd yr Athro Monica Busse yn Gyfarwyddwr ar gyfer Cyfadran newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a sefydlwyd i sicrhau bod ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael yr hyfforddiant a'r gefnogaeth iawn i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae ymchwil yr Athro Busse wedi cyfrannu at y canllawiau clinigol cyntaf ar ffisiotherapi rhyngwladol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer Clefyd Huntington, ac ar hyn o bryd mae hi'n un o'r ymchwilwyr arweiniol ar astudiaeth sy'n profi rhaglen gymorth hunanreoli wedi’i phersonoli ar gyfer pobl sy'n byw â COVID hir.
Mae'r Athro Busse, sydd wedi'i lleoli yn y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhan o grŵp newydd Uwch Arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd.
Creu diwylliant ymchwil Cymreig
Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn un o'r argymhellion mewn adroddiad diweddar, Hyrwyddo Gyrfaoedd Mewn Ymchwil: adolygiad o gyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a adolygodd y cyfleoedd hyfforddi a datblygu ymchwil sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.
Tynnodd yr adroddiad sylw at y galluogwyr a'r rhwystrau a nododd argymhellion i wella'r cymorth ac annog mwy o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i roi cynnig ar yrfaoedd ymchwil.
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Mae ein Cyfadran newydd yn dwyn ynghyd ein holl gynlluniau hyfforddi a datblygu a chyllid personol mewn un lle.
“Rydym yn awyddus iawn i gefnogi'r bobl dalentog sydd eisoes yn gweithio ym maes ymchwil yma yng Nghymru a hefyd i ddenu'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.
“Mae gan yr Athro Busse hanes gwych o ddatblygu a mentora ymchwilwyr yn gynnar yn eu gyrfaoedd ac mae ganddi lefel uchel o arbenigedd yn ei maes ymchwil. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi yn y swydd newydd hon.”
Dywedodd yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Gyfarwyddwr Cyfadran newydd i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn anad dim gan fy mod i wedi bod mor ffodus yn fy ngyrfa ymchwil fy hun i elwa ar ysbrydoliaeth a mentoriaeth ymchwilwyr gwirioneddol ragorol o Gymru a chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n ystyried hwn yn gyfle i gyfrannu at yr amgylchedd ymchwil yng Nghymru.
“Rwyf wedi bod trwy lawer o’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau sy’n gysylltiedig â datblygu gyrfa ymchwil ac rwy'n gobeithio y gallaf wneud gwahaniaeth i'r ymarferwyr, addysgwyr ac ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol hynny yng Nghymru sy'n llywio llwybr tebyg ar hyn o bryd.
“Mae'r adroddiad Hyrwyddo Gyrfaoedd Mewn Ymchwil yn tynnu sylw at y rhan y gall cymorth, arweiniad, cynlluniau mentora ac esiamplau da ei chwarae wrth greu diwylliant ymchwil cenedlaethol. Bydd y Gyfadran, ynghyd â'r Uwch Arweinwyr Ymchwil sydd newydd eu penodi, yn ymdrechu i sicrhau bod y math o gymorth, arweiniad a mentora sydd ei eisiau a’i angen ar ymchwilwyr o bob cefndir ar gael er mwyn symud ymlaen ar hyd eu dewis o lwybr ymchwil.”
I gael rhagor o newyddion gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.