Dr Jonathan Phillips
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (2021 - 2024)
Teitl y prosiect: Translational Magnetic Resonance Imaging (MRI) research
Bywgraffiad
Mae Dr Jonathan Phillips yn arwain y grŵp ffiseg delweddu atseiniol magnetig (MRI), sydd wedi'i leoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA). Dechreuodd yn y swydd ym mis Ebrill 2020, ar ôl ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn 2012. Mae'r tîm ffiseg MRI yn darparu cefnogaeth wyddonol glinigol i sawl sefydliad yng Nghymru.
Fel academydd clinigol, mae Jon yn angerddol am ymchwil, gwella ansawdd ac arloesi mewn MRI clinigol. Mae Jon yn wyddonydd clinigol cofrestredig, yn wyddonydd arbenigol uwch ac yn Arbenigwr Diogelwch MR achrededig (MRSE). Mae'n darparu hyfforddiant arbenigol iawn i Wyddonwyr Clinigol dan Hyfforddiant GIG Cymru ym maes MRI fel rhan o'r rhaglen hyfforddiant gwyddonol (STP), i radiograffwyr ac i radiolegwyr (FRCR) trwy'r Academi Ddelweddu. Mae Jon hefyd yn arwain ar nifer o fodiwlau prifysgol.
Mae delweddu meintiol yn ysgogi diddordebau ymchwil Jon a'i brif ddiddordebau ymchwil ar hyn o bryd yw delweddu trylediad nad yw’n Gaussaidd a delweddu corff cyfan. Mae Jon yn gyn-fyfyriwr Crwsibl Cymru ac mae'n croesawu cydweithio rhyngddisgyblaethol.