
Leighton Phillps
Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Phartneriaethau Prifysgol
Dr Leighton Phillips yw Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a a Phartneriaethau Prifysgol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn y rôl honno, mae’n goruchwylio adran fawr a phortffolio sylweddol o dreialon clinigol, ymchwiliadau clinigol o ddyfeisiau a thechnolegau meddygol, arloesi, gwerthusiad o'r byd go iawn, a newid strategol a gaiff ei lywio gan egwyddorion Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Mae Leighton yn Athro er anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, yn flaenorol, mae wedi ymgymryd â rolau arwain yn y GIG, yn y byd academaidd, gyda chyrff anllywodraethol ac yn yr uwch wasanaeth sifil, lle y bu’n defnyddio system gynllunio a strategaeth newydd ar gyfer GIG Cymru, ac mae ganddo brofiad o weithio ar lefel genedlaethol gydag uwch wleidyddion, cabinet a phwyllgorau'r llywodraeth.