Mr Tim Pickles

Tim Pickles

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Rhaglen Cymrodoriaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (2019 - 2023)

Teitl y prosiect: Patient-reported Outcome Measures for Rheumatoid Arthritis Symptom Severity: development of a computer adaptive test from an item bank using Raschmeasurement theory (SOCRATES)


Bywgraffiad

Mae Tim Pickles yn gweithio ar seicometreg, mesurau canlyniad a adroddir gan glaf (PROMs), damcaniaeth fesur Rasch a phrawf ymaddasol cyfrifiadur ym maes Arthritis Gwynegol. Fe’i goruchwylir gan yr Athro Ernest Choy (Prifysgol Caerdydd), Dr Mike Horton (Prifysgol Leeds), Dr Karl Bang Christensen (Prifysgol Copenhagen), Dr Rhiannon Phillips (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) a Dr David Gillespie (Prifysgol Caerdydd).

Yn y gorffennol, mae wedi cwblhau astudiaethau dilysu seicometrig ym meysydd llosgiadau a wroleg. Fe’i cyflogwyd fel ystadegydd treialon yn cynnal nifer fawr o wahanol dreialon ac astudiaethau mewn amrywiaeth o feysydd clinigol gan weithredu amrywiaeth o wahanol dechnegau ystadegol. Mae wedi bod ar secondiadau gyda’r Ysgol Ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a hefyd Canolfan Triniaeth a Gwerthuso Arthritis Arbrofol Caerdydd (CREATE) yn yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Ef yw cadeirydd presennol Grŵp Diddordeb Arbennig y DU ac Iwerddon y Gymdeithas Ryngwladol Ymchwil Ansawdd Bywyd (ISOQOL).


 

Sefydliad

Health and Care Research Wales NIHR Doctoral Fellow and Research Fellow in Statistics at Cardiff University

Cyswllt Tim

Ffôn: 02920 687259

E-bost

Twitter

LinkedIn