Miss Malisa Pierri

Malisa Pierri

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Research Capacity Building Collaboration (RCBC) Wales fellowships


Bywgraffiad

Malisa Pierri yw Nyrs Glinigol Arbenigol Arweiniol a rheolwr Canolfan Epilepsi Cymru. Ar ôl cymhwyso, dechreuodd weithio ym maes niwrolawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn dilyn cyfnod o weithio yn Sydney, Awstralia, dychwelodd i Gymru a chymryd swydd Ymarferydd Nyrsio Niwroleg.

Yn 2004, cychwynnodd ei swydd ym maes epilepsi â diddordeb arbennig mewn rheoli trawiadau cyntaf tybiedig. Yn 2011, derbyniodd ysgoloriaeth deithio Florence Nightingale i ystyried profiadau yn dilyn trawiadau cyntaf yn America ac Awstralia. Yn 2012, derbyniodd ysgoloriaeth gyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru. Yn 2018, daeth yn ail yng nghystadleuaeth Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) Cymru ac yn 2019 enillodd ymarferydd iechyd y flwyddyn Epilepsy Action. Ar hyn o bryd, mae Malisa yn ymgymryd â chymrodoriaeth Newydd i Ymchwil gyda Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC), yn edrych ar brofiadau pobl o ofal o bell ers dechrau COVID-19


 

Sefydliad

Lead Clinical Nurse Specialist and Welsh Epilepsy Centre Manager at Cardiff and Vale University Health Board

Cyswllt Malisa

Ffôn: 02921 845066

E-bost

Twitter