Platfform cronfa ddata a thechnoleg goruwch Cymru’n chwarae rhan fawr mewn cydweithrediad ymchwil COVID-19 rhyngwladol newydd
22 Mehefin
Mae’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL), y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei ariannu, wedi’i ddewis i chwarae rhan allweddol mewn cydweithrediad rhyngwladol i gyflymu ymchwil COVID-19.
Wedi’i sefydlu gan Ymchwil Data Iechyd y DU a phartneriaid, yn sgil cyhoeddi cyllid gan y Sbardunwr Therapiwteg COVID-19 a Sefydliad Gates, bydd y Gynghrair Ryngwladol Mainc Weithio ac Ymchwil Data COVID-19 newydd yn cefnogi datblygu therapïau’n gyflym i frwydro yn erbyn effeithiau byd-eang COVID-19.
Mae llawer o sefydliadau ledled y byd yn cynnal astudiaethau i COVID-19 ac yn cynhyrchu data a fydd, pan fyddan nhw’n cael eu cronni a’u hailddadansoddi, yn gallu arwain at fewnwelediadau grymus i helpu i gyflymu darganfod ymyriadau. Fodd bynnag, mae’r data yn aml wedi’u hynysu o ddata eraill, sy’n ei gwneud hi’n anodd i’r rheini sy’n cynhyrchu’r data gydweithio’n gyflym
Bydd y Gynghrair Ryngwladol Mainc Weithio ac Ymchwil Data COVID-19 yn darparu amgylchedd ar gyfer ymchwil gydweithredol â ffocws, gan gyfateb data gwerth uchel o lawer o ffynonellau â gwaith dadansoddi arloesol i gyflymu gwaith cydweithredu, darganfod a datblygu therapiwteg i frwydro yn erbyn COVID-19, y cyfan â phreifatrwydd a hygyrchedd mewn cof.
Dan arweiniad Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae Banc Data SAIL yn grŵp ymchwil sydd wedi’i gydnabod yn rhyngwladol ac sy’n gweithio i wneud data y mae’r GIG a ffynonellau eraill yn eu casglu fel mater o drefn yn ddienw, ac i gysylltu’r data hyn mewn modd diogel, er dibenion cefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Banc Data SAIL ydy’r Amgylchedd Ymchwil Sicr ar gyfer BREATHE, sef hyb Ymchwil Data Iechyd y DU ar gyfer iechyd anadlol, ac mae’n ganolbwynt ar gyfer casglu amrywiaeth eang o ddata’n ymwneud â COVID-19. Mae hyn yn cynnwys rheoli mynediad yr ap astudiaeth symptomau ZOE COVID-19 poblogaidd i ddata sydd wedi’u gwneud yn ddienw.
Mae tîm Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe hefyd yn dod â’u platfform technegol SeRP (Platfform e-Ymchwil Diogel) i’r Gynghrair, sy’n darparu technoleg ‘addaswr’ newydd, gan ostwng y bar technegol i bartneriaid data pellach ymuno â’r Gynghrair.
Meddai’r Athro David Ford, Cyfarwyddwr Banc Data SAIL a SeRP (Platfform e-Ymchwil Diogel) a Phrif Swyddog data yn BREATHE:
“Rydyn ni wrth ein boddau bod Platfform e-Ymchwil Diogel (SeRP) Prifysgol Abertawe’n cyfrannu ei dechnoleg Addaswr i’r cydweithrediad pwysig hwn. Gan weithio gydag Aridhia, byddwn ni’n sicrhau bod modd i storfeydd data annibynnol, sydd wedi’u llywodraethu’n dda, gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ffederal ar raddfa fawr y bydd y Gynghrair yn eu galluogi, heb orfod symud eu data allan o’u rheolaeth leol.”
Mae Banc Data SAIL wedi derbyn cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r sefydliadau a oedd yn rhagflaenwyr iddo ers 2006, sydd wedi darparu sylfaen gadarn ar gyfer eu rôl yn cefnogi ymchwil COVID-19.
Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Rydyn ni wrth ein boddau’n gweld sut y mae parhau i ariannu a chefnogi Banc Data SAIL wedi arwain at Gymru’n gallu chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech ymchwil COVID-19 ryngwladol. Mae gallu cael gafael ar ddata o ansawdd da yn ganolog i ymchwil a fydd yn cael effaith ar ein ffordd o ymateb i’r pandemig hwn.”
Meddai Dr Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd, Llywodraeth Cymru:
“Mae Banc Data SAIL yn ased gwerthfawr i’n cefnogi i ddeall sut y mae COVID-19 yn effeithio ar iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. Rydyn ni wedi mynd ati i weithio ochr yn ochr â Banc Data SAIL ac annog cydweithredu ag ef, i adeiladu ar gryfder yr arbenigedd sydd ar gael yma yng Nghymru.”
Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wefan am ymchwil COVID-19 yng Nghymru sy’n manylu ar yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sydd ar waith, neu ar y gweill, yng Nghymru.