Prif Gynghorydd Gwyddonol ar Iechyd Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar

Pwrpas y swydd  

Bydd gan y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar Iechyd brofiad helaeth ar lefel uwch yn y sector addysg uwch mewn disgyblaeth wyddonol sy'n gysylltiedig â gwyddor bywyd (iechyd dynol), y diwydiant ymchwil a datblygu neu bydd yn wyddonydd clinigol sydd â hanes gyrfa a fydd yn golygu y gall ennyn parch pob gweithiwr proffesiynol.

Dylai gwybodaeth yr unigolyn o ran gwyddoniaeth ddofn ei alluogi i werthfawrogi neu weithio ar draws ystod o ddisgyblaethau gwyddonol, gan feithrin cysylltiadau cynhyrchiol ag arbenigwyr eraill yn y maes er mwyn datblygu cyngor a dealltwriaeth.

Bydd angen i ddeiliad y swydd fynd ati ar unwaith i ennyn hyder y Gweinidogion, cydweithwyr ar lefel uwch yn y GIG a phartneriaid ehangach.  O ystyried ehangder y portffolio, bydd y gallu i gyflawni yn hanfodol er mwyn llwyddo. 

Yn anad dim, rhaid i'r Prif Swyddog Cynghori fod â'r gallu i greu partneriaethau a rhwydweithiau a chreu grwpiau awdurdodol sy'n uchel eu parch. Dylai feddu ar allu rhagorol i gyfathrebu a chydweithredu.

Mae hon yn swydd allweddol yn y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar o fewn Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu cyngor gwyddonol mewn perthynas ag iechyd a gofal, a hyrwyddo'r sector ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod ymchwil iechyd a gofal, cyngor gwyddonol a thystiolaeth yn cael eu harneisio yn y ffordd orau i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal, gwelliannau mewn tegwch a chanlyniadau iechyd, a llywio cyfraniad y sectorau iechyd a gofal at uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru.

Rhywbeth sy'n allweddol i'r rôl yw sicrhau bod tystiolaeth a chyngor gwyddonol yn gadarn, yn berthnasol ac o ansawdd uchel a bod gwyddoniaeth a thystiolaeth yn sail briodol i waith datblygu polisi, cynghori a gwerthuso.

Gyda'r Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil, bydd deiliad y swydd yn cyd-arwain Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - sefydliad rhithwir amlweddog sy'n darparu'r seilwaith i gefnogi a chynyddu capasiti mewn ymchwil a datblygu iechyd a gofal, yn rhedeg ystod o gynlluniau cyllido ymatebol ac yn rheoli adnoddau i hyrwyddo, cefnogi a chyflwyno ymchwil.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda chydweithwyr o fewn Llywodraeth Cymru ac ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i gryfhau’r cydlynu a’r cysylltiadau rhwng ymchwil, datblygu ac arloesi.

Tasgau Allweddol  

Bydd y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar Iechyd yn gyfrifol am y canlynol:

  1. Darparu cyngor a dadansoddiad gwyddonol annibynnol sy'n rhagweithiol ac yn cael ei arwain gan y galw ar draws ystod o bynciau iechyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a llunwyr polisïau.
  2. Sicrhau bod ymchwil a datblygiad, tystiolaeth wyddonol, dadansoddiad a chyngor yn berthnasol, yn gadarn ac o ansawdd uchel.
  3. Darparu swyddogaeth herio annibynnol i'r grŵp a sicrhau bod mecanweithiau ar waith i lywio polisïau a gwneud penderfyniadau, gan gynnwys wrth ymateb ar frys. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio'r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) ac unrhyw bwyllgorau cynghori gwyddonol perthnasol eraill.
  4. Cyd-arwain Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda'r Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth, a bod yn ffynhonnell gyngor i'r Dirprwy Gyfarwyddwr hwnnw ar bolisïau a blaenoriaethau ymchwil cyffredinol, gan ddod â dealltwriaeth ddofn o systemau ymchwil a datblygu, gyda ffocws penodol ar gefnogi ei ddylanwad ar lefel y DU.
  5. Gweithio'n agos gyda'r arweinwyr allweddol ar draws Llywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o effaith gwyddoniaeth mewn iechyd ar wyddorau bywyd, arloesi, technolegau sy'n dod i'r amlwg ac AI, gan sicrhau blaenoriaethu’r hyn y canolbwyntir arno yn effeithiol a datblygu cydweithrediad cydgysylltiedig parhaus â'r byd academaidd, diwydiant a darparwyr gofal iechyd.
  6. Datblygu a chynnal perthynas waith gref gyda Phrif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru, y Pennaeth Dadansoddi, Pennaeth y Proffesiwn Polisi, y Prif Economegydd ac arweinwyr ehangach ar draws y Llywodraeth i sicrhau dull cydgysylltiedig a strategol o ran gwyddoniaeth ac ymchwil.
  7. Cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn pwyllgorau cynghori a phaneli perthnasol ar draws y pedair gwlad a chefnogi Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru drwy eu cysylltiad â Rhwydwaith Prif Gynghorwyr Gwyddonol y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru mewn persbectif iechyd, gofal a gwyddorau bywyd yn cael eu diogelu'n briodol a bod allbynnau pwyllgorau o'r fath yn llywio cyngor yn briodol i uwch swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
  8. Datblygu a chynnal perthnasoedd allweddol gyda phartneriaid yng Nghymru a'r DU, gan gynnwys GIG Cymru, Adrannau Iechyd y DU, UKHSA, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR), Cynghorau Ymchwil UKRI, elusennau ymchwil a diwydiant.
  9. Cymryd rhan weithredol fel aelod o Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Prif Swyddog Meddygol, a dirprwyo ar gyfer y Prif Swyddog Meddygol pan fo'n briodol.

Am wybodaeth bellach a chymhwyso, ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru.

Contract type: 3 blynedd
Hours: Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)
Salary: SCS1 - tua £92,537
Lleoliad: Ledled Cymru
Job reference:
2739
Closing date: