Ydych chi eisiau defnyddio'ch profiad o anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) i helpu eraill i leihau ei symptomau?

Helpwch ymchwilwyr i ddeall a allai ymdrochi mewn dŵr oer helpu i leihau symptomau anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).

Mae ymchwilwyr eisiau archwilio a all ymdrochi mewn dŵr oer leihau symptomau PTSD ac a allai ddod yn ddull cefnogol ochr yn ochr â thriniaethau presennol. 

Mae un o bob deg o bobl yn y DU yn profi PTSD, gyda thua 300,000 o achosion newydd yn cael diagnosis bob blwyddyn. Er mai therapïau siarad a meddyginiaeth yw'r prif fathau o driniaeth, bydd yr ymchwil hon yn edrych ar a all ymdrochi mewn dŵr oer fod yn ychwanegiad defnyddiol.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Bydd angen:

  • Profiad bywyd o PTSD

Gallai'r canlynol hefyd fod yn ddefnyddiol:

  • Parodrwydd i adolygu a darparu adborth ar ddogfennau
  • Diddordeb mewn llunio ymchwil a allai fod o gymorth i eraill â PTSD
  • Hyder i rannu eich barn mewn lleoliad grŵp
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Gofynnir i chi adolygu'r cynlluniau ymchwil arfaethedig a chynghori ar y canlynol:

  • A yw'r disgwyliadau ar gyfer cyfranogwyr yn hylaw
  • Sut y gellid rhannu canfyddiadau'n effeithiol gyda phobl sy'n cael diagnosis o PTSD
  • Cymorth i nodi unrhyw feysydd o'r astudiaeth a allai roi cyfranogwyr mewn perygl
Pa mor hir fydd fy angen?
  • Byddwch yn cymryd rhan am 18 mis. Bydd naw cyfarfod i gyd gydag un yn cael ei gynnal bob dau fis. Bydd pob cyfarfod yn para tuag awr, gyda’r angen am awr ychwanegol i baratoi trwy ddarllen dogfennau ymlaen llaw.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Cyfrannu'n uniongyrchol at ddatblygu astudiaeth ymchwil newydd
  • Cael mynediad at ganfyddiadau'r astudiaeth, a allai fod yn berthnasol i'ch profiad eich hun o PTSD
  • Chwarae rôl mewn ymchwil a allai fod o fudd i eraill sy'n byw gyda PTSD
  • Defnyddio eich profiad personol i lunio ymchwil iechyd a gofal
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
  • Bydd yr ymchwilydd arweiniol yn darparu hyfforddiant ac arweiniad parhaus drwy gydol y prosiect

Edrychwch ar ein canllawiau gael mwy o wybodaeth am hyn. 

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.

Sut ydw i'n ymgeisio

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Uned Treialon Abertawe

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm